Pryder am gynnydd sylweddol mewn taliadau fflatiau ymddeol yn Llandudno
Mae pensiynwr wedi mynegi pryder y bydd trigolion fflatiau ymddeol yn Llandudno yn ei chael hi'n anodd fforddio cynnydd o hyd at 21% yn eu taliadau gwasanaeth a chynnal a chadw misol.
Dywedodd Peter Thompson, 77 oed, sy'n berchen ar fflat yng Nghwrt Sant Tudno, ei fod ef a thrigolion eraill yn y datblygiad wedi derbyn rhybudd y bydd eu taliadau misol yn cynyddu rhwng 18% a 21%.
Mae'r fflatiau ar Ffordd Clarence yn cael eu rheoli gan FirstPort, cwmni sy'n darparu gwasanaethau i'r rhai sy'n byw mewn datblygiadau ar gyfer pobl hŷn.
Yn ôl Mr Thompson, mae rhai o drigolion y 66 o fflatiau yn byw ar incwm sefydlog a byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r arian ychwanegol.
Yn wreiddiol o Lanrwst, dywedodd Mr Thompson, sy'n dad a thaid, fod ei fil misol wedi codi o £808.69 i £957.53 - cynnydd o £148.84.
Dywedodd llefarydd ar ran FirstPort fod y cwmni wedi ymrwymo i "ddarparu gwerth am arian i berchnogion tai", a bod y taliadau gwasanaeth newydd yn adlewyrchu "costau gwirioneddol rheoli" y fflatiau.
Mae Mr Thompson, cyn-filwr gyda'r Llu Awyr Brenhinol, wedi byw yn y fflatiau ers 14 mis.
Dychwelodd i'r DU ar ôl byw yn America yn dilyn marwolaeth ei wraig, gan brynu'r fflat am tua £140,000.
"Does gan y trigolion fawr o ddewis yn y mater, ac maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu dal yn wystlon gan y penderfyniad," meddai.
"Gan fod llawer ar incwm sefydlog, bydd nifer ohonyn nhw'n cael trafferth dod o hyd i'r symiau ychwanegol sy'n cael eu mynnu.
"Rwy'n ffodus fy mod i'n gallu dod o hyd i ffordd o dalu'r swm ychwanegol, ond bydd rhai yma'n gorfod dioddef er mwyn gwneud hynny.
"Mae'n gwbl warthus."
'Degawd o danariannu'
Mewn cyfarfod ar 20 Awst, cododd y trigolion eu pryderon gyda chynrychiolydd o FirstPort.
"Roedd tua 40 o drigolion yn y cyfarfod, ac roedd y cyfarfod yn eithaf stormus," meddai.
"Doedd llawer o bobl eraill ddim yn gallu dod oherwydd ei fod yn fyr rybudd. Y gwir amdani yw bod yr eiddo wedi cael ei danariannu ers degawd neu fwy.
"Er mwyn diweddaru costau staffio ac ati, a rhoi arian o'r neilltu mewn cronfa wrth gefn ar gyfer pethau fel ailosod ffenestri, dodrefn newydd, carpedi newydd a chynnal a chadw'r lifft, mae'n rhaid i ni, y trigolion presennol, dalu oherwydd esgeulustod pobl eraill...
"Gofynnais pam nad oedd FirstPort yn ariannu'r diffygion hyn ac yn talu i gydbwyso'r gyllideb newydd, yn hytrach na throsglwyddo'r baich i bawb drwy'r cynnydd sydyn a sylweddol hwn yn y taliadau misol.
"Rydyn ni, y trigolion, bellach yn wynebu taliadau misol annirnadwy er mwyn talu am flynyddoedd o gyllidebu hollol ofnadwy."
Dywedodd Mr Thompson iddo hefyd ofyn yn ysgrifenedig "pam fod y gronfa wrth gefn wedi dyblu o £20,000 i £40,000, pam fod y tâl am lanhau'r mannau cymunedol wedi cynyddu £3,000, o £1,800 i swm enfawr o £4,800".
Er iddo ganmol y staff cadw tŷ am wneud "gwaith rhagorol", roedd am wybod "pwy oedd yn cael eu talu, a pham fod cyllideb y gwasanaeth cadw tŷ wedi codi o £26,968 i £41,000".
Cyfarfod
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy'n rheoli'r eiddo: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwerth am arian i berchnogion tai, ac mae taliadau gwasanaeth yn cael eu pennu i adlewyrchu costau gwirioneddol rheoli a chynnal a chadw'r datblygiad yn unig, yn ogystal â'r gwasanaethau dyddiol sy'n helpu i wneud Cwrt Sant Tudno yn lle diogel, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn bleserus i fyw ynddo.
"Cynhaliwyd cyfarfod â'r trigolion yn ddiweddar i ymgynghori â pherchnogion y cartrefi ynghylch y gyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan roi cyfle gwerthfawr iddyn nhw rannu eu barn a gofyn cwestiynau.
"Yn ystod y cyfarfod, esboniwyd bod y gyllideb arfaethedig yn adlewyrchu adolygiad manwl o'r gwariant presennol a'r costau a ragwelir ar gyfer y dyfodol ar draws y datblygiad, gan gynnwys staffio, gwasanaethau o ddydd i ddydd a chyfraniadau uwch at gronfeydd wrth gefn ar gyfer gwaith mawr yn y dyfodol.
"Mae hyn yn cynnwys y gwaith i ailosod ffenestri, y gofynnodd y trigolion amdano, yn ogystal ag adnewyddu'r lifft, gan helpu i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy y mae llawer o'r trigolion yn dibynnu arno."
Nododd y cwmni hefyd fod y gyllideb staffio wedi cael ei "hadolygu er mwyn adlewyrchu costau gweithredu gwirioneddol yn well ac osgoi diffygion a gododd oherwydd tan-gyllidebu yn y blynyddoedd blaenorol".
Yn ôl y llefarydd, mae'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer glanhau'r mannau cymunedol yn adlewyrchu "ailddyrannu costau, yn hytrach na chynnydd sylweddol" yn y gwasanaethau glanhau.
Caiff y gronfa wrth gefn ei chreu drwy gyfraniadau o'r taliadau gwasanaeth, ac mae'n cael ei chadw ar wahân ar gyfer y datblygiad er mwyn helpu i ariannu gwaith a phrosiectau yn y dyfodol.
