Rhybudd melyn am fellt a tharanau i dde-ddwyrain Cymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau ar gyfer de-ddwyrain Cymru ddydd Sadwrn.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 21:00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai stormydd ddod â rhwng 15 a 25mm o law mewn awr mewn rhai mannau, gyda 30mm yn bosib o fewn dwy i dair awr.
Mae disgwyl i'r tywydd garw effeithio ar ardaloedd yng ngorllewin yr ardal sydd o dan y rhybudd yn ystod y prynhawn, cyn symud tua'r dwyrain gyda'r nos.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r glaw trwm arwain at amodau gyrru anodd, gyda ffyrdd gwlyb a dŵr yn tasgu, neu genllysg mewn rhai mannau.
Gallai hynny olygu bod teithiau mewn ceir a bysiau yn cymryd mwy o amser, ac mae posibilrwydd hefyd o oedi i wasanaethau trên.
Ychwanegodd yr asiantaeth y gallai mellt achosi difrod i rai adeiladau a strwythurau, ac y gallai rhai ardaloedd wynebu toriadau byr i gyflenwadau trydan.
Mae perygl hefyd o lifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
Torfaen
