'Pryder cynyddol' wedi 12 achos newydd o’r tafod glas yng Nghymru
Mae undeb wedi dweud bod 12 achos newydd o glefyd y tafod glas sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru yn destun "pryder cynyddol".
Cafodd yr achosion diweddaraf eu cadarnhau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Sir Ddinbych, Gwynedd, Powys, Abertawe a Wrecsam ddydd Iau.
Mae hynny’n codi’r cyfanswm ar gyfer y tymor presennol i 61, o’i gymharu â 24 yn ystod tymor 2025-26.
Roedd 11 ohonynt yn ymwneud â defaid ac un â gwartheg.
Mae “achos” yn cyfeirio at safle lle mae o leiaf un anifail wedi profi’n bositif, ac nid at nifer yr anifeiliaid sydd wedi’u heintio.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae’r ymchwydd diweddar mewn achosion o Glefyd y Tafod Glas yn destun pryder cynyddol i ffermwyr Cymru, yn enwedig ar adeg pan fo’r diwydiant eisoes yn wynebu pwysau sylweddol yn dilyn haf heriol.
“Gyda’r disgwyl i nifer yr achosion gynyddu ymhellach, rydym yn annog ffermwyr i barhau i fod yn wyliadwrus, cynnal mesurau bioddiogelwch cadarn a chysylltu â’u milfeddyg i drafod brechu.
“Mae brechu yn parhau i fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o amddiffyn da byw rhag Clefyd y Tafod Glas.”
Mae 684 o achosion o’r math BTV-3 wedi’u cadarnhau ar draws y DU ers dechrau tymor 2026-27, gan gynnwys 610 yn Lloegr, 61 yng Nghymru a 13 yn yr Alban.
Mae 2,504 o safleoedd eraill ym Mhrydain Fawr yn destun ymchwiliad ar ôl i arwyddion posibl o’r clefyd gael eu cofnodi.
Mae’r clefyd yn cael ei ledaenu gan wybed a gall effeithio ar ddefaid, gwartheg, geifr a chamelidau fel alpacas a lamas.
Nid yw’n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosi salwch difrifol a marwolaeth ymhlith anifeiliaid, yn enwedig defaid.
Ymhlith yr arwyddion mae twymyn, chwyddo o amgylch yr wyneb a’r geg, briwiau yn y geg, trwyn yn rhedeg, glafoerio a chloffni.
‘Galw uchel’
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ei fod hefyd yn ymwybodol o bryderon cynyddol ynghylch prinder brechlynnau posibl a’r gost i ffermwyr.
Mae brechlynnau’n cael eu mewnforio gan gyfanwerthwyr i geisio ateb y galw, gyda lefelau stoc yn newid bob dydd.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru, Defra a phartneriaid eraill i fonitro’r cyflenwad.
Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i gynnig cymorth ariannol tuag at gost brechu.
Nid oes ffigurau cyflawn ar gael eto ar nifer y dosau sydd wedi’u rhagnodi neu eu rhoi yng Nghymru eleni. Mae disgwyl i’r wybodaeth gael ei chasglu yr wythnos nesaf.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: “Brechu yw’r unig fesur ymarferol hirdymor i ddiogelu da byw rhag y Tafod Glas. Mae’r galw am frechlyn yn uchel iawn ar hyn o bryd.
“Rydym yn parhau i annog ceidwaid anifeiliaid â thuedd i’r clefyd i drafod brechu gyda’u milfeddyg. Anogir ffermwyr a milfeddygon yn gryf i archebu brechlynnau nawr er mwyn dangos y galw am frechlynnau BTV-3 a sicrhau mynediad at gyflenwadau sydd ar gael yn fasnachol.
“Cyn dod ag anifeiliaid i mewn i gymryd lle stoc bresennol, yn enwedig stoc fridio, gwiriwch eu statws Tafod Glas. Gofynnwch a yw’r anifeiliaid wedi’u brechu, a pheidiwch â phrynu mwy nag yr oeddech wedi bwriadu ei brynu.
“Dewch i wybod pa arwyddion i gadw llygad amdanynt - mae canfod cynnar yn hanfodol - ac os ydych chi'n amau clefyd, rhowch wybod i APHA ar unwaith ar 0300 303 8268.”
Rhoi gwybod
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i geidwaid da byw yng Nghymru roi gwybod ar unwaith am unrhyw achos posibl.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn talu am yr ymweliad milfeddygol, yr ymchwiliad a phrofion ar hyd at dri sampl ar bob fferm pan fydd rhywun yn rhoi gwybod am achos posibl o’r clefyd.
