Gohirio llawdriniaethau cadarnhau rhywedd yng Nghymru yn sgil pryderon diogelwch
Mae llawdriniaethau cadarnhau rhywedd i gleifion Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'u gohirio am y tro yn sgil pryderon am gyfraddau atgyfeirio "sylweddol uwch" na'r rhai yn Lloegr.
Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro atal atgyfeiriadau llawfeddygol newydd ar unwaith, yn ogystal ag asesiadau a llawdriniaethau a oedd eisoes wedi’u trefnu, tra bod adolygiad clinigol annibynnol yn cael ei gynnal.
Daw'r penderfyniad ar ôl cyfarfod o bwyllgor ansawdd, diogelwch a chanlyniadau'r NWJCC ar 24 Awst, pan gafodd y gwasanaeth ei godi i Lefel 3.
Mae Lefel 3 yn broses ffurfiol o fewn y GIG sy'n golygu bod angen mwy o oruchwyliaeth, monitro a gwaith i wella'r gwasanaeth.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae pryderon am ddata atgyfeirio 2025-26.
Mae'n dweud bod y data'n dangos bod cyfradd yr atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd yng Nghymru yn "sylweddol uwch" na mewn gwasanaethau rhywedd yn Lloegr, gyda phryderon hefyd am rai o'r prosesau asesu ac atgyfeirio.
Dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn cydnabod y gallai'r cyhoeddiad hwn fod yn bryderus i gleifion, eu teuluoedd, staff a'r gymuned ehangach.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth glir, ffeithiol ac amserol am yr hyn y mae hyn yn ei olygu a'r gefnogaeth sydd ar gael."
Yn ôl adroddiad gan The Times, roedd cyfradd yr atgyfeiriadau yng Nghymru y llynedd bron bedair gwaith yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr.
Bydd yr adolygiad annibynnol yn edrych ar sut mae cleifion yn cael eu hasesu a'u hatgyfeirio, yn ogystal â'r ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli.
Bydd hefyd yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
Beth mae hynny'n ei olygu i gleifion?
Cafodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd, ei sefydlu yn 2019.
Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal arbenigol gan GIG Cymru i oedolion sy'n profi anghysondeb rhywedd.
Ar ôl apwyntiad cychwynnol, gall cleifion gael eu gweld gan glinigwyr mewn canolfannau rhywedd yn eu hardal leol.
Dim ond y rhan o'r gwasanaeth sy'n ymwneud â llawdriniaethau sy'n cael ei heffeithio ar hyn o bryd.
Mae atgyfeiriadau newydd ar gyfer llawdriniaethau, asesiadau llawfeddygol a rhai llawdriniaethau sydd eisoes wedi'u trefnu wedi'u gohirio am y tro.
Ond mae'r gwasanaethau eraill yn parhau, gan gynnwys therapi hormonau, gwasanaethau endocrinoleg, cymorth seicolegol a therapi iaith a lleferydd.
Mae cleifion sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn cael eu cynghori i barhau i fynychu er mwyn trafod eu camau nesaf.
'Pryderus iawn'
Mae'r elusen hawliau trawsryweddol TransActual wedi beirniadu'r penderfyniad yn gryf.
"Mae TransActual yn bryderus iawn ynghylch y penderfyniad i oedi llawdriniaethau cadarnhau rhywedd i bobl sydd wedi'u hatgyfeirio drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru," meddai'r elusen mewn datganiad.
"Mae pobl draws sy'n defnyddio'r gwasanaeth bellach heb unrhyw lwybr GIG i gael y gofal llawfeddygol sydd ei angen arnynt."
Dywedodd TransActual fod y penderfyniad yn cael effaith ddifrifol ar bobl sy'n aros am lawdriniaeth, gan gynnwys, yn ôl yr elusen, cleifion sydd wedi wynebu canslo llawdriniaethau ar fyr rybudd.
Mae'r sefydliad hefyd yn cwestiynu'r defnydd o'r cyfraddau atgyfeirio uwch yng Nghymru fel sail i bryderon am y gwasanaeth.
Bydd yr adolygiad clinigol annibynnol yn edrych ar drefniadau asesu, atgyfeirio a rheoli'r gwasanaeth.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi eich heffeithio, mae cymorth ar gael gan elusennau Umbrella Cymru, Switchboard, a Samaritans Cymru.
