Pryder am effaith ‘dorcalonnus’ canolfan ddata ar lannau’r Fenai
Mi fyddai canolfan ddata newydd ar lannau'r Fenai yn cael sgil effeithiau 'tor-calonus ar yr ardal a'r amgylchedd’ yn ôl ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynllun.
Bwriad y cwmni datblygu ydi codi canolfan fyddai'n ymestyn dros 41 hectar rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Yn ôl y datblygwyr, byddai'n arwain at dua 900 o swyddi yn y cyfnod adeiladu a 200 yn barhaol.
Ond gyda bron i 15,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynllun mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai’n dinistrio golygfeydd ac nad yw’r safle'n addas.
Yn ôl y datblygwyr, cwmni Gwelyfenai mi fyddai'r datblygiad yn dod â hen safle sy'n adfail yn ôl i ddefnydd, yn creu swyddi lleol ac yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy.
Mae'r datblygiad yn destun cais cynllunio i Gyngor Gwynedd gyda'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 17 Hydref.
Mae'r cais cynllunio yn dangos y byddai'r Ganolfan yn ymestyn dros safle 41 hectar a byddai'r adeilad uchaf ar y safle tua 30 metr o uchder.
Mi fyddai'r safle yn cynnwys sawl warws lle fyddai peiriannau stori data yn cael eu cadw.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ymgyrchwyr eu bod yn poeni am y sgil effaith ar yr amgylchedd, golygfeydd, defnydd dŵr a sŵn.
'Sŵn'
Mae Emyr Davies yn un o arweinwyr yr ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynllun a'i gartref yn agos iawn at ffiniau'r datblygiad, pe bai'n derbyn sêl bendith.
"Mae'n mynd i newid tirlun o Sir Fôn yn sbio draw tuag at Eryri am genedlaethau i ddod," meddai.
"Ddim jest yn weledol, mae'r sŵn yn poeni pawb - mae'r sŵn mae'r rhain yn cynhyrchu yn anghrediniol ac agosaf yda chi ato fo y mwyaf annioddefol ydio.
"Mae na sôn am glustnodi 260 o refrigeration units ar eu topiau hynny ac mae hynny ar lefel 30 metr sydd yn direct am hitio pobl ar y lon top."
Dywedodd hefyd ei fod yn poeni am faint o ddŵr byddai'r cynllun angen ei ddefnyddio.
Yn ôl dogfennau cynllunio, mae disgwyl y byddai'n defnyddio oddeutu 700,000 litr o ddŵr y dydd ond mi allai ddefnyddio hyd at 11,949,120 litr.
"Y senario mwyaf tebygol a nodir yn ein datganiad amgylcheddol yw y bydd angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd. Mae hyn yn gymaradwy â gofynion dŵr gwesty mawr, ysbyty neu gyfleuster cynhyrchu bwyd", meddai'r dogfennau.
Cyfarfod Cyhoeddus
Dros y penwythnos mi ddaeth dros 100 o bobl ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon i glywed am y datblygiad gyda nifer yn mynegi pryderon am ei faint a'i effaith ar fyd natur.
Yn ôl datblygwyr, mi fyddai'r ganolfan yn creu tua 950 o swyddi yn ystod y broses adeiladu gyda dros 200 yn barhaol.
Ond amau hynny mae rhai o'r ymgyrchwyr sy'n credu y bydd nifer o'r swyddi yn rhai arbenigol ac y bydd pobl o bell yn teithio i'w cyflawni.
"Dwi'n meddwl fod AI yn rhywbeth rili newydd i'n bywydau ni a dwi'n poeni am hein oherwydd 'dw i 'di gweld yr effaith yn y UDA", meddai Emma Lewandowicz sy'n byw yn lleol.
"Pobl sydd heb ddŵr, y sŵn yn concerning, yr effaith ar anifeiliaid ac ar bobl leol".
"Fyddwn i ddim yn gweld y Fenai ddim mwy, tourism hefyd... ma'n heartbreaking - torri calonnau".
Un o gynghorwyr lleol yr ardal ydi Gwion Emyr sydd yn erbyn y cynllun ac yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus.
“Mae’r ymateb di bod yn gryf ac yn uchel gyda’r rhan fwyaf o bobl dwi wedi siarad efo yn erbyn," meddai.
“Dwi ddim yn erbyn cael unrhyw ddatblygiad yn Ferodo, mae angen rhywbeth yna, mae di bod yn wag ers dros 20 mlynedd.
“Mae ‘na fanteision ac anfanteision a dydi creu swyddi... dylai o ddim fod ar draul yr amgylchedd neu’r ardal a iechyd pobl."
Swyddi
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd y cwmni eu bod yn deall fod datblygiad tebyg "yn codi cwestiynau yn lleol ac rydym am sicrhau bod y drafodaeth yn seiliedig ar ffeithiau cywir.
“Mae’r safle yn hen dir diwydiannol segur sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd a phroblemau diogelwch. Mae’r cynllun yn cynnig cyllid preifat o’i lanhau a’i adfer i ddefnydd masnachol.
“Er y bydd yr adeiladau newydd yn fwy na’r rhai presennol, mae mesurau dylunio a thirlunio wedi’u cynnwys i leihau’r effaith weledol.
“Ni fydd dŵr yn cael ei dynnu o’r Fenai nac unrhyw ddŵr oeri yn cael ei ollwng iddi. Dim ond dŵr glaw glân fydd yn cael ei ryddhau drwy’r system ddraenio.
“Bydd y datblygiad yn cynnwys gwelliannau sylweddol i fioamrywiaeth ac mae asesiadau amgylcheddol, gan gynnwys sŵn, wedi’u cynnal.
“Disgwylir i’r prosiect greu dros 900 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a thua 200 o swyddi parhaol o werth uchel wedi hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau addysg lleol i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol.
“Rydym wedi ymgynghori â’r gymuned ac yn parhau i ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid lleol wrth i’r cynlluniau symud ymlaen.”
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi derbyn "tystiolaeth fod hysbysiadau wedi eu gosod ar y safle ac wedi ei gyhoeddi yn y wasg leol ar 16 Medi felly rydym wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori hyd nes 17 Hydref 2026".
"Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio maes o law, ynghyd ag argymhelliad swyddog, a bydd yn cael ei benderfynu yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, ac unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill".