'Pryder cynyddol' am gerddwr 74 oed sydd ar goll yn Eryri
Mae "pryder cynyddol" am gerddwr sydd ar goll yn Eryri ers bore dydd Iau, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Nid oes neb wedi gweld y dyn o'r enw Gregor, sy'n 74 oed, ers 10.15 y bore hwnnw pan barciodd ei gar yn Hostel Mynydd Eryri ger Bethesda.
Mae ymdrech chwilio aml-asiantaeth yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Y gred yw ei fod wedi bwriadu mynd i gerdded yn ardal Carnedd y Filiast.
Mae'n caei ei ddisgrifio fel dyn pum troedfedd a 10 modfedd o daldra gyda gwallt byr cyrliog.
Mae'n bosib ei fod yn gwisgo crys-t gwyrdd a throwsus brown.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd Gregor ddydd Iau neu fore Gwener i gysylltu gyda nhw ar unwaith.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un a oedd yn cerdded yn yr ardal, yn enwedig ar hyd Carnedd y Filiast, i wirio unrhyw luniau gafodd eu tynnu rhag ofn y gallai Gregor fod yn y cefndir.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r heddlu gysylltu gyda swyddogion gan ddyfynnu'r cyfeirnod 0100150.
