Pryder y bydd BBC Cymru yn rhoi'r gorau i ddarlledu'r Eisteddfod Genedlaethol
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi codi pryderon y bydd BBC Cymru yn rhoi'r gorau i ddarlledu'r brifwyl yn y dyfodol oherwydd toriadau gan y gorfforaeth.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod gan yr Eisteddfod "bryder difrifol" am effaith y toriadau ar ddarlledu diwylliant Cymru.
Yn ddiweddar, fe wnaeth BBC Cymru gyhoeddi cynlluniau i dorri swyddi oherwydd pwysau ariannol.
Mae’r toriadau yn rhan o gynlluniau ehangach y gorfforaeth i arbed £500m dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru fod y gorfforaeth yn “gwbl ymrwymedig” i ddarlledu o'r brifwyl.
Yr Eisteddfod yw un o ddarllediadau allanol mwyaf y BBC.
Fel rhan o doriadau BBC Cymru, bydd 58 o swyddi yn cael eu colli. Bydd 20 awr yn llai o raglenni teledu, a bydd sawl rhaglen radio yn dod i ben.
Mewn llythyr at Liz McLean, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru, dywedodd Betsan Moses fod gan yr Eisteddfod "bryder difrifol" am effaith y toriadau ar y ffordd mae’r BBC yn cynrychioli diwylliant Cymru yn ei ddarllediadau.
"Yn ddiweddar, ysgrifennais at Heledd Fychan AS, y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, i fynegi ein pryder ynghylch y posibilrwydd y gallai'r BBC roi'r gorau i ddarparu darllediadau'r Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o'i threfniadau cyflenwi cynnwys ar gyfer S4C," meddai.
"Deallaf fod y Trefnydd eisoes mewn trafodaethau gyda'r BBC ynghylch materion sy'n codi o'r toriadau hyn, ac rydym yn gwerthfawrogi'r ymgysylltiad hwnnw."
Yn ôl y llythyr, yr Eisteddfod yw trydydd darllediad allanol mwyaf y BBC, ar ôl Gŵyl Glastonbury a phencampwriaeth Wimbledon.
"O ystyried hynny, mae'n anodd peidio â gweld unrhyw leihad yn ymrwymiad y BBC i ddarparu'r Eisteddfod fel arwydd o duedd bryderus o ran blaenoriaethu a gwelededd diwylliant Cymru o fewn y sefydliad," meddai Betsan Moses.
'Partneriaeth'
Bydd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Matt Brittin, a chyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys, yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon ddydd Llun nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru fod y gorfforaeth yn "gwbl ymrwymedig i ddarlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol, fel y mae wedi gwneud ers degawdau lawer".
Ychwanegodd y llefarydd fod yr ymrwymiad yn cynnwys darllediadau ar y radio ac ar y teledu, yn ogystal â chynnwys ar-lein. Mae hynny’n sicrhau bod yr Eisteddfod yn cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
"Mae'r ddarpariaeth deledu yn cael ei chyflwyno fel rhan o bartneriaeth y BBC gyda S4C," medden nhw.
"Fel sy’n arferol bob blwyddyn, mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C ynghylch y pecyn cynnwys ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr Eisteddfod i ddiwylliant a'r Gymraeg, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n cysylltiad cryf a llwyddiannus â'r ŵyl”.