Profiadau personol menyw o Benarth yn ei hysgogi i gyhoeddi llyfr am fod yn fam

Profiadau personol menyw o Benarth yn ei hysgogi i gyhoeddi llyfr am fod yn fam

Mae mam o Fro Morgannwg yn cyhoeddi nofel newydd i gynnig 'cysur a chymorth' i eraill wedi i brofiadau personol ei hysgogi i ysgrifennu. 

Mae Rhian Siôn yn 39 oed o Benarth, a hi yw awdur y nofel newydd 'Gyda'n Gilydd'.  

"Os yw e’n helpu rywun i deimlo’n llai ar ben ei hun, byse hwnna’n beth da," meddai Rhian wrth Newyddion S4C.

"Ma hi'n nofel am fenywod cyfoes yn eu 30au a ma'r prif gymeriadau i gyd mewn lle gwahanol yn eu bywyd.

"Ma hi'n cyffwrdd ar y ffaith fod disgwyliadau gan gymdeithas ar fenywod yr oed yna i gyrraedd rhyw cerryg filltir arbennig felly mae'n cyffwrdd ar y ffaith fod disgwyl gan gymdeithas falle bod menywod wedi priodi, a wedi cael plant.

"Yn y bon, stori yw hi am gyfeillgarwch, cyfeillgarwch rhwng menywod a'r pwer sydd mewn cyfeillgarwch rhwng menywod a'r ffordd ni'n helpu'n gilydd trwy fywyd."

Image
Rhian Siôn
Rhian Siôn yw awdur  y nofel newydd 'Gyda'n Gilydd

Fe wynebodd Rhian heriau personol wedi iddi ddod yn fam am y tro cyntaf.

"Pan ddes i'n fam newydd ar ddechrau fy 30au, nes i ffindio'r cyfnod 'na o fy mywyd i yn anodd iawn. Nes i ddioddef o postnatal depression a o'dd e'n teimlo fel ar y pryd bod neb wir yn siarad am pa mor anodd ma' cael plant," meddai. 

"Felly o'dd hwnna yn y cefndir gyda fi a wedyn rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, es i drwy gyfnod arall o iselder a nes i adael swydd ddysgu i wneud gwaith cyflenwi felly o'dd llawer mwy o hyblygrwydd 'da fi.

"Benderfynes i ddechrau sgwennu i wella fy iechyd meddwl."

Image
Rhian Siôn
Fe wynebodd Rhian heriau personol wedi iddi ddod yn fam am y tro cyntaf.

Fe aeth Rhian ar gwrs trwy Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd, a gydag anogaeth Llyr Titus oedd yn rhedeg y cwrs ac awduron eraill ar y cwrs, fe gysylltodd Rhian gydag amryw o weisg er mwyn ceisio cael y syniadau wedi eu cyhoeddi. 

Fe anfonodd Rhian ei synopsis at wasg Sebra, ac fe dderbyniodd gynnig i gyhoeddi.

"O’n i’n meddwl os gallen i ‘sgwennu am rwbeth  fi ’di profi fy hun, byse’r ‘sgwennu yn fwy realistig, o’n i hefyd yn teimlo pan o’n i’n isel ac yn y blaen, bod darllen llyfre i fenywod eitha ysgafn, menywod cyfoes, blêr, bywydau ar chwâl, ond wedyn gyda diweddglo hapus, nath e wir helpu fi trwy’r cyfnod," meddai.

"O’n i’n teimlo fel bod prinder o lyfre yn y genre ‘na felly o’n i’n meddwl byse hi’n braf ‘sgwennu rwbeth o’r un genre yn Gymraeg."

Image
Mae Rhian yn hoff o nofio yn y môr, ac mae'r profiad yma yn cael ei gynnwys yn y nofel.
Mae Rhian yn hoff o nofio yn y môr, ac mae'r profiad yma yn cael ei gynnwys yn y nofel.

Er mai ffuglen ydy'r gwaith, mae dylanwad profiadau personol Rhian yn y nofel 

"Ffuglen yw’r gwaith, ond yn sicr mae fy mhrofiade i fy hun wedi bwydo i mewn iddo fe," meddai.

"Does dim un o’r cymeriade wedi selio arna i, ond ma’ ‘na elfenne o brofiade go iawn, er enghraifft postnatal depression yn un ohonyn nhw, dyw’r geirie ‘na ddim wedi cael eu crybwyll yn y stori ond ma’ ‘na thema cryf bod y cymeriad yn mynd trwy rywbeth fel ’na.

"O’n i’n gobeithio bydde hwnna yn falle yn gymorth neu gysur i rywun, a hefyd y thema ‘ma o jyst be’ chi’n neud pan dyw bywyd ddim yn troi mas fel oeddech chi’n  meddwl byse fe."

Fi’n credu pan y’n ni’n ifanc ac yn breuddwydio am pan bydden i wedi tyfu fyny a be o’n i ishe neud a be’ ni isie ein bywyd i edrych fel, a wedyn yn sydyn, ni yn 30 a ni ddim yn gwybod, dyw hwnna ddim wedi gwireddu, a sut ma’ delio ‘da hynny rili.

Roedd ysgrifennu am rai o'r profiadau y mae hi wedi eu profi yn gymorth mawr i Rhian.

"Pan y’ch chi’n ‘sgwennu am rwbeth ‘dych chi’n gw’bod amdan hefyd, fi’n credu bod y stori yn dueddol o fod yn fwy tyner, yn fwy emosiynol ag os o'n i'n meddwl os gallen i 'sgwennu am rywbeth fi 'di profi fy hun, wedyn byse'r 'sgwennu yn fwy realistig," meddai.

"Hefyd o'n i yn ffeindio fe'n help, o'n i'n teimlo trueni dros y cymeriad wrth 'sgwennu amdani ble o fy mhrofiad i, o'n i'n teimlo'n euog lot, o'n i'n teimlo fel fy mai i oedd pethe.

"Ond trwy sgwennu am rywun arall yn mynd drwy'r profiad, o'n i'n teimlo fel sdim raid ti deimlo'n euog, ma' hwn yn salwch a dyw e ddim yn neis."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.