'Profiad erchyll' o gamdriniaeth gan gyn-berchennog bwyty yng Nghaernarfon

Richard Tung

Mae dioddefwr a gafodd ei dreisio pan yn blentyn gan gyn-berchennog bwyty yng Nghaernarfon wedi siarad am y "profiad erchyll a arweiniodd at deimladau o fod eisiau dod â'i fywyd i ben".

Cafodd Richard Tung, 42 oed, o Benisa’r-waun sy'n gyn-berchennog bwyty Fu's yn Noc Fictoria yn y dref ei ddedfrydu ar ôl i Lys y Goron Nottingham glywed ei fod wedi cam-drin y dioddefwr dros gyfnod o flynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn blentyn ifanc iawn.  

Nid oes gan Tung gysylltiad â'r bwyty bellach, ac nid yw'r troseddau yn gysylltiedig â'i rôl yn y tŷ bwyta. 

Mewn cyfweliad arbennig gyda gwefan newyddion North Wales Live, dywedodd y dioddefwr ei fod "wedi byw gyda’r trawma am flynyddoedd lawer cyn teimlo’r gallu i ddod ymlaen" i adrodd am y gamdriniaeth wrth yr heddlu.

Cafodd Tung ei ddyfarnu’n euog o nifer o droseddau, gan gynnwys treisio plentyn dan 13 oed ac o gynnal nifer o droseddau rhyw difrifol eraill yn erbyn yr un dioddefwr.

Yn ystod yr achos yn erbyn Tung, fe gafodd ei ddisgrifio fel rhywun oedd yn cael ei weld gan nifer fel dyn busnes parchus o fewn y gymuned, oedd â dylanwad ar y diwydiant bwyd a bwytai lleol yn ardal Caernarfon.  

'Ochr dywyll'

Fodd bynnag, fe glywodd y llys hefyd fod ganddo "ochr gudd" oedd yn "llawer tywyllach" na'r hyn yr oedd pobl yn ei weld. 

Roedd wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda’r dioddefwr cyn dechrau cyflawni troseddau rhyw difrifol yn ei erbyn.  

Yn y cyfweliad arbennig gyda North Wales Live, dywedodd y dioddefwr, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, fod Tung yn dod o hyd i esgusodion er mwyn treulio amser ar ei ben ei hun gydag e - ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd y gamdriniaeth.

Dywedodd: “Byddai’n chwarae gemau, byddai’n gadael imi ddefnyddio ei ffôn symudol, ac roedd pawb yn meddwl ei fod yn foi hyfryd. Roedd pawb yn meddwl na allai wneud dim o’i le, felly roedd pobl yn ymddiried ynddo.

“Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd fod hyn yn wrong - nes iddo daro fi’n sydyn ryw ddydd - dydy hyn ddim yn normal."

“Fe wnes i geisio ei ymladd i ffwrdd, ond roedd yn fwy na fi ac yn gryfach na fi.”

Dywedodd y dioddefwr, sydd bellach yn ei ugeiniau, nad oedd yn credu y byddai unrhyw un yn ei gredu pe bai’n dweud wrthynt.

'Roeddwn yn beio fy hun'

Fel llawer o ddioddefwyr cam-drin rhywiol, roedd y dioddefwr yn beio’i hun am yr hyn a ddigwyddodd, ac am beidio â gallu ei atal.

Fe aeth y cyfweliad ymlaen i ddweud fod y gamdriniaeth wedi gadael i'r dioddefwr deimlo fel lladd ei hun, a’i fod wedi hunan-niweidio yn y gorffennol.

Fe aeth y dioddefwr at yr heddlu yn 2022, a nodi fod Tung wedi cyflawni'r troseddau yn ei erbyn. 

Dywedodd y dioddefwr ei fod wedi "gwadu bopeth", ond fod yr holl droseddau dal yn "fyw yn ei gof" yntau.

Mae'r adroddiad yn crynhoi fod y dioddefwr "wedi llwyddo i ddod o hyd i fwy o dawelwch meddwl" dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny ar ôl derbyn llawer o help proffesiynol.

Ychwanegodd: “Ysgogiad arall i reportio Tung oedd i amddiffyn eraill. 

"Roedd angen imi ddweud rhywbeth oherwydd os nad oedd neb yn amau y gallai wneud hyn, fe allai fod wedi, neu yn gwneud hyn i eraill.”

Dywedodd y barnwr wrth ddedfrydu Tung, fod y troseddau wedi cael effaith “ddinistriol” ar fywyd y dioddefwr, ac fe ddywedodd yr heddlu fod y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau, gan ganmol dewrder y dioddefwr am ddod ymlaen ar ôl cyfnod mor hir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.