Cyn-Brif Weinidog Cymru yn dweud y dylai Starmer ymddiswyddo

Drakeford a Starmer

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi dweud y dylai Syr Keir Starmer osod amserlen ar gyfer ei ymadawiad o Downing Street. 

 Yn ôl Mark Drakeford, does dim modd adfer ei sefyllfa.  

Yn Brif Weinidog Cymru rhwng 2018 a 2024, dywedodd Mr Drakeford wrth adran newyddion Channel 4 y byddai'n cefnogi Andy Burnham i fod yn olynydd Syr Keir Starmer, a'i fod yn bwriadu ymgyrchu drosto yn etholaeth Makerfield yn ardal Manceinion, lle bydd ie-etholiad yn cael ei gynnal fis Mehefin.    

"Rwy'n credu y dylai Keir Starmer osod amserlen ar gyfer cyfnod o newid yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig, a'r Deyrnas Unedig ei hun," meddai.

"Mae e'n ddyn da sy'n gweithio'n eithriadol o galed bob dydd i wneud ei orau glas, ond mae cyfuniad o amgylchiadau a chapasiti yn golygu nad yw pethau o'i blaid, ac mae'n amser i gydnabod hynny, a rhoi cynllun yn ei le i symud ymlaen."   

Ychwanegodd: "Rwy'n credu nad oes modd adfer y sefyllfa, gydag e yn bersonol a'i allu i arwain llywodraeth effeithiol."  

Mae Syr Keir Starmer eisoes wedi gwrthod galwadau iddo gyhoeddi amserlen ar gyfer ildio'r awenau fel Prif Weinidog pe bai Andy Burnham yn ennill sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae Mr Starmer yn dweud ei fod yn dymuno arwain y Blaid Lafur yn yr etholiad nesaf, er gwaethaf y pwysau cynyddol sydd arno yn dilyn perfformiad siomedig y blaid mewn etholiadau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae Maer Manceinion, Andy Burnham, bellach wedi sicrhau enwebiad y Blaid Lafur yn yr is-etholiad yn Makerfield.

Pan ofynnodd y wasg ddydd Llun a fyddai'n gosod amserlen ar gyfer ildio ei le, pe bai Mr Burnham yn dychwelyd i San Steffan, fe atebodd y Prif Weinidog: "Nid wyf am wneud hynny.

"Rydw i eisiau brwydro yn yr etholiad nesaf. Yn amlwg rwy'n cydnabod mai ar ôl canlyniadau yr etholiadau lleol a'r etholiadau yng Nghymru a'r Alban, mai'r dasg gyntaf yw newid pethau a sicrhau bod fy ffocws i yn y lle iawn."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.