Uned achosion brys ar gau oherwydd problem gyda chyflenwad dŵr
Mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dweud nad ydyn nhw yn derbyn cleifion i’r uned achosion brys sydd ar y safle ddydd Mawrth ar ôl problem gyda chyflenwad dŵr y safle.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod y cyflenwad dŵr “wedi ei atal dros dro”, ond eu bod nhw’n ceisio datrys y broblem.
Maen nhw’n cynghori pobl i fynd i ysbyty arall os ydyn nhw angen sylw meddygol brys.
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fe ddywedon nhw: "Rydym yn profi aflonyddwch sylweddol dros dro i'r cyflenwad dŵr yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
"Oherwydd prinder dŵr, ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu derbyn cleifion i'r Adran Argyfwng heno tra ein bod ni’n gweithio i ddatrys y broblem.
"Peidiwch â dod i’r Adran Argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
"Os oes angen gofal brys neu argyfwng arnoch, ewch i ysbyty arall lle bynnag y bo modd."
Ni fydd yr ysbyty yn derbyn ymwelwyr nos Fawrth chwaith.
Ychwanegodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.
"Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."
Mae’r adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf at Ysbyty Tywysoges Cymru tua hanner awr i ffwrdd, yn Llantrisant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
