Prisiau petrol a diesel i ymddangos ar Google Maps am y tro cyntaf yn y DU
Bydd gyrwyr yn gallu gweld prisiau petrol a diesel bron mewn amser real ar Google Maps yn y DU am y tro cyntaf o ddydd Iau.
Fe fydd prisiau tanwydd mewn gorsafoedd lleol yn ymddangos ar yr ap a bydd modd cymharu prisiau petrol a diesel cyn teithio yno.
Daw'r newid wrth i brisiau tanwydd barhau i godi yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Mae'r wybodaeth yn dod o gynllun Fuel Finder Llywodraeth y DU, gafodd ei sefydlu yn dilyn argymhelliad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) er mwyn cynyddu cystadleuaeth rhwng gorsafoedd petrol.
Ers mis Chwefror, mae'n rhaid i orsafoedd petrol ledled y DU roi gwybod am unrhyw newid yn eu prisiau o fewn 30 munud, neu wynebu'r posibilrwydd o ddirwy.
Yn ôl y Llywodraeth, mae data Fuel Finder bellach yn cynnwys tua 99% o'r holl danwydd sy'n cael ei werthu ar ffyrdd y DU.
Mae'r wybodaeth eisoes yn cael ei defnyddio gan apiau a gwasanaethau gan gynnwys Waze, PetrolPrices, yr AA, Confused.com a RAC Fuel Watch.
Dywedodd y Gweinidog Defnyddwyr Ynni, Polly Billington: “Mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yw ein cyfrifoldeb cyntaf, ac i nifer o deuluoedd a busnesau mae petrol a diesel yn nwyddau hanfodol, nid yn rhywbeth moethus.
“Dylai cael mynediad at y tanwydd rhataf fod yn syml, a dyna pam mae dangos prisiau tanwydd bron mewn amser real ar Google Maps am y tro cyntaf yn y DU yn newid mawr, gan helpu gyrwyr i ddod o hyd i'r fargen orau ac arbed arian wrth y pwmp.”
Dywedodd Sarah-Jayne Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Cynnyrch Byd-eang Geo yn Google: “Ni ddylai delio â chostau cynyddol tanwydd ychwanegu straen at deithiau bob dydd.
“Mae integreiddio data Fuel Finder i Google Maps a Waze yn rhoi golwg i yrwyr ar brisiau mewn gorsafoedd cyfagos, gan eu helpu i wneud dewisiadau bwriadol er mwyn gwneud i'w harian fynd ymhellach y gaeaf hwn.”