Prifysgol De Cymru: Galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd mae gweithwyr yn cael eu trin

Newyddion S4C

Prifysgol De Cymru: Galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd mae gweithwyr yn cael eu trin

Mae galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd mae gweithwyr yn cael eu trin yn un o brifysgolion mwyaf Cymru.

Daw'r alwad fel rhan o ymchwiliad rhaglen Newyddion S4C i'r diwylliant gwaith ym Mhrifysgol De Cymru, gyda honiadau bod rheolwyr yn bwlio, yn ddifater ynghylch lles staff ac yn gorfodi rhai sy'n chwythu'r chwiban i adael eu swyddi.

Dywedodd Prifysgol De Cymru nad ydyn nhw'n cytuno gyda'r honiadau, ond eu bod nhw'n "llwyr yn erbyn pob ffurf o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu."

Hi yw ail brifysgol fwyaf y wlad. Cafodd ei ffurfio yn 2013 wrth uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae dros 20,000 o fyfyrwyr yn astudio yno ac mae'r brifysgol yn cyflogi mwy na 2,800 o weithwyr.

Dros y misoedd diwethaf, mae Newyddion S4C wedi siarad â neu weld dogfennaeth gan oddeutu 12 o gyn-weithwyr yn y brifysgol sydd yn codi pryderon am "ddiwylliant tocsig" a chyfradd uchel o salwch ymhlith gweithwyr o ganlyniad i bwysau gwaith a bwlio honedig.

Mae dwy fu'n darlithio yno ond sydd nawr wedi eu diswyddo yn dwyn achosion mewn tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn y brifysgol. Fe gytunon nhw i rannu eu pryderon am y tro cyntaf mewn cyfweliadau gyda rhaglen Newyddion S4C.

Image
Zella Parry
Zella Parry

Bu Zella Parry yn gweithio yn y brifysgol am ddegawd a mwy, cyn cael ei diswyddo ym mis Gorffennaf 2024. Rhwng 2018 a'i diswyddiad, roedd hi'n gweithio fel uwch-ddarlithydd mewn gwyddoniaeth fforensig. Yn ôl y brifysgol, cafodd ei diswyddo wedi i'r berthynas waith dorri rhyngddi hi a'r brifysgol.

Ond mae Ms Parry nawr yn dod ag achos mewn tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn y brifysgol, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn annheg wedi iddi godi pryderon am fwlio a lles staff.

Bu'n gynrychiolydd lles staff am gyfnod. Er yn dweud bod cydweithwyr yn aml yn codi cwynion a phryderon, mae'n honni nad oedd uwch-reolwyr y brifysgol eisiau gwrando.

"Roedd e'n fater o godi pryderon aml bod y llwyth gwaith yn ogystal â'r diwylliant...yn creu problemau i staff a myfyrwyr. Ond doedd neb yn mynd i'r afael â hynny," meddai.

"Roedden ni'n dod o gyfarfodydd ac yn dechrau teimlo'n bod ni'n gwneud drwg i'n hunain...ac ar ôl ychydig, wedi i'n pryderon fynd yn fwy difrifol, fe gaethon nhw wared ar y grŵp lles."

'Torri perthynas waith'

Mae hi'n dweud bod awdurdodau'r brifysgol wedi ei thargedu a'i herlid o'r gweithle.

"Dw'i wedi cyhuddo a dwi'n dal i gyhuddo'r brifysgol o dorri'r berthynas waith rhyngom ni. 

"Nhw sydd ar fai am dorri'r berthynas honno yn fy achos i ac yn achos fy nghydweithwyr. Ond dwi'n gwbl grediniol eu bod nhw'n gwneud hynny yn fwriadol er mwyn gorfodi pobl i adael," meddai.

Image
Dr Rehana Karim
Dr Rehana Karim

Un arall sydd yn dod ag achos mewn tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn Prifysgol De Cymru yw Dr Rehana Karim. Cafodd hi ei diswyddo ym mis Ebrill eleni.

Mae'n dweud iddi gael ei thargedu ac i wahaniaethu ddigwydd yn ei herbyn wedi iddi wneud cwynion, chwythu'r chwiban ar gyfres o bryderon oedd ganddi a chytuno i fod yn dyst yn achos Zella Parry.

"Cefais fy aflonyddu yn y bôn, fel 'na fyddwn i'n dehongli'r peth...cefais fy nghosbi, fy rhoi dan anfantais," meddai.

Chafodd dim un o'r cwynion na'r pryderon gododd Dr Karim eu cynnal gan y brifysgol. Ond mae'n mynnu nad hi yw'r drwg yn y caws.

"Beth rydw i wedi'i weld yw pryd bynnag mae rhywun yn codi pryder, cwyn neu unrhyw ofid; materion yn ymwneud â iechyd a diogelwch neu brofiad myfyrwyr, maen nhw yn mynd," meddai.

"Mae'r rhain yn ofidion go iawn. Maen nhw'n rhwystro staff rhag codi pryderon er mwyn cuddio, fel bod popeth yn edrych yn iawn. Dyw e ddim yn wir."

Mewn datganiad swmpus, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru eu bod nhw'n "flin bod unigolion yn teimlo iddyn nhw gael eu trin yn annheg" ond "na allan nhw wneud sylw am honiadau penodol oherwydd gweithredu cyfreithiol sydd yn parhau."

Dywedon nhw iddyn nhw gyflwyno system adrodd a chefnogi yn 2023 sydd yn galluogi myfyrwyr a gweithwyr i godi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. 

Maen nhw'n dweud eu bod yn trin unrhyw honiadau o ymddygiad o'r fath o ddifrif, gan ymchwilio yn drylwyr, gan gynnwys yn allanol pan yn briodol.

'Cyfeiriad newydd'

Yn ôl y datganiad, mae eu data salwch yn dangos cyfraddau "isel a sefydlog" sef tua 3% yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Dywedon nhw hefyd bod y tîm arwain wedi esblygu mewn blynyddoedd diweddar "gan adlewyrchu cyfeiriad newydd ac ymroddiad o'r newydd" at eu gwerthoedd.

Rhwng 2017-2022, roedd yr Athro Dylan Jones-Evans yn ddirprwy is-ganghellor ym Mhrifysgol De Cymru. Mae sawl un wedi cysylltu â fe i fynegi eu pryderon wedi iddo adael y sefydliad.

Dywedodd: "Mae'n amlwg fod bwlch mawr rhwng y rheolwyr sydd yn gosod cyfeiriad strategol y brifysgol a'r staff sydd yn gwneud y sefydliad y lle arbennig y dylia'i o fod."

"Os ydy'r pethau yma yn digwydd yn y sector addysg uwch, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru neu Medr, y corff sydd yn edrych ar ôl prifysgolion, i edrych yn fanwl ar y cwynion i wneud rhyw fath o astudiaeth neu arolwg annibynnol i edrych os ydy hyn jesd yn ddau neu dri o bobl sydd yn dweud eu bod nhw wedi cael eu trin [yn wael] neu ydy hyn yn ddiwylliant sydd yn y brifysgol a diwylliant sy'n rhaid ei newid? 

"Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r sector addysg uwch i ymddwyn yn y ffordd yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Medr: “Mae prifysgolion yn elusennau annibynnol ac, felly, mae materion sy’n ymwneud ag anghydfodau staff yn gyffredinol yn faterion i’r sefydliadau eu hunain eu hymchwilio’n fewnol yn y lle cyntaf."

Fe ddywedon nhw hefyd y byddai Medr yn “ystyried pob cwyn yn ofalus ac yn asesu’r angen am ymyrraeth reoleiddiol lle nodir problemau systemig.”

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod cyfyngiadau ar wneud datganiadau newydd oherwydd yr etholiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.