Ynys Môn: Cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy

Gwasanaethau Brys Porthaethwy

Mae enw dyn a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ ger Porthaethwy ar Ynys Môn wedi ei gyhoeddi.

Dywed Swyddfa'r Crwner dros Ogledd Orllewin Cymru mai Julian Peter Langley, 82 oed, oedd y dyn a fu farw wedi'r digwyddiad ar 19 Ebrill. 

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Penmynydd ger y dref toc wedi 17:00 ar 19 Ebrill i gynorthwyo'r gwasanaethau brys.

Er gwaethaf eu hymdrechion, cyhoeddwyd bod dyn 82 oed wedi marw yn ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd ar y pryd: "Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn.

Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y pryd fod un criw o Fangor ac un criw o Fenllech wedi eu hanfon yno, ac fe gafodd corff dyn ei ddarganfod y tu allan i'r adeilad. 

Dywedodd Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Ry'n ni'n estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.