'Atgofion melys': Y Tywysog William yn dathlu pen-blwydd Y Fali ar Ynys Môn yn 85 oed

Tywysog William

Mae’r Tywysog William wedi dweud fod ganddo “atgofion melys” wrth iddo nodi pen-blwydd canolfan Llu Awyr Brenhinol Y Fali ar Ynys Môn yn 85 oed.

Dywedodd wrth recriwtiaid ei fod wedi “caru” ei gyfnod yno, wrth iddo ymweld â’r safle ddydd Mawrth.

Roedd yn beilot chwilio ac achub gyda’r RAF yn y ganolfan ger Caergybi rhwng 2010 a 2013, pan oedd e a‘r Dywysoges Kate yn byw gyda’i gilydd ar Ynys Môn fel pâr oedd newydd briodi.

Yn ystod ei ymweliad ddydd Mawrth, fe wnaeth William gyfarfod â chyn-gydweithwyr gan gynnwys yr hyfforddwr peilotiaid Brian Wills a’r prif hyfforddwr morwrol Andy Batchelor.

Dywedodd Mr Batchelor, a fu’n gweithio gyda William ar griwiau chwilio ac achub: “Mae’n foi gwych, yn gyfeillgar, yn hawdd cyd-dynnu ag e, ac yn beilot galluog iawn.

“Roedd yn hawdd iawn gweithio gydag e. Roedd e eisiau bod yn Will yn unig, roedd e jyst yn un o’r tîm.

“Mae’n wych ei gael yn ôl yma ar gyfer y pen-blwydd yn 85 oed. Fe yw Tywysog Cymru felly mae’n gwneud synnwyr, ond rwy’n credu bod ganddo hygrededd oherwydd ei fod wedi byw a gweithio yma yng ngogledd Cymru.”

Wrth siarad â hyfforddeion yn yr orsaf, a agorodd ym mis Chwefror 1941, dywedodd William: “Roeddwn i wrth fy modd gyda fy nghyfnod yma. Roedd yn lot o hwyl.

“Bydd eich cyfnod chi yma yn mynd yn gyflym, dyna’r peth. Byddwch yn edrych yn ôl gydag atgofion melys.”

Ychwanegodd: “Rwy’n gweld ei eisiau. Rwy’n gweld eisiau’r swydd, rwy’n gweld eisiau’r cyfeillgarwch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.