Carchar am 10 mlynedd i ddynes am daro dyn yn fwriadol tra'n gyrru
Mae dynes 59 oed o Bort Talbot wedi ei charcharu am 10 mlynedd ar ôl iddi daro dyn yn fwriadol yn ei char cyn gyrru o safle'r gwrthdrawiad.
Yn ystod oriau mân 23 Hydref 2025, cafodd Louise Blackwell ei gweld yn gollwng y dyn ar Ffordd Margam, ym Mhort Talbot, cyn gyrru oddi yno, troi am yn ôl, a gyrru yn fwriadol tuag at y dioddefwr tra roedd yn croesi'r ffordd.
Cafodd y dyn anafiadau difrifol.
Clywodd y llys nad oedd unrhyw arwyddion fod Blackwell wedi ceisio arafu, cyn iddi ffoi o safle'r gwrthdrawiad yn ei cherbyd.
Cafodd Blackwell ei harestio ddyddiau yn ddiweddarach, ac fe wnaeth yr heddlu ddarganfod ei bod hi yn gyrru o dan ddylanwad alcohol ar y pryd.
Plediodd yn euog i achosi niwed corfforol difrifol yn anfwriadol fis Rhagfyr diwethaf.
Ond plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o geisio llofruddio ac anafu yn fwriadol.
Cafodd ei dyfarnu'n euog o'r cyhuddiad olaf ar 16 Ebrill.
Fore Mawrth cafodd ei dedfrydu i garchar am 10 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tom Herbert: "Mae Louise Blackwell yn fenyw hynod o beryglus, ac mae'n haeddu cael ei hanfon i garchar.
“Cafodd y dioddefwr anafiadau difrifol, ac mae cyfnod hir o wella o'i flaen, o ganlyniad i gyflymder gyrru Louise Blackwell pan gafodd ei daro.
“Er mwyn ceisio cuddio'r gwir, dywedodd Blackwell wrth ei merch iddi daro anifail, a gofynodd iddi ei helpu i lanhau unrhyw dystiolaeth oddi ar ei cherbyd, cyn iddi yn ddiweddarach gyfaddef y gwir.
“Oherwydd cyfuniad o alcohol a chynddarnedd, cyflawnodd Louise Blackwell weithredoedd ofnadwy ar y diwrnod hwnnw fis Hydref. Bydd hi bellach yn talu'r pris am ei throseddau.”