Powys: Anafiadau allai beryglu bywyd plentyn pump oed wedi gwrthdrawiad
Cafodd plentyn pump oed ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau allai beryglu bywyd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys ddydd Sul.
Cafodd pum person eu hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad rhwng tri char ar ffordd yr A4067, ger Craig-y-Nos am tua 17.50. Roedd hyn yn cynnwys y plentyn, sydd bellach yn sefydlog yn yr ysbyty.
Roedd car Ford Fiesta gwyrdd, Volkswagen Polo du a Vauxhall Grandland llwyd yn y gwrthdrawiad.
Cafodd gyrrwr y Ford Fiesta, dyn 39 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus ac esgeuluso plentyn.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod cerbyd arall, Ford Fiesta melyn, hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
Cafodd gyrrwr y cerbyd, dyn 65 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.
Mae’r ddau ddyn yn parhau yn y ddalfa.
Mae’r llu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw yrwyr a oedd yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera dashfwrdd, i rannu gwybodaeth drwy ffonio 101.