Cau Pont y Borth am yr ail ddiwrnod yn olynol
Bu'n rhaid cau Pont y Borth am gyfnod ddydd Mercher, a hynny am yr ail ddiwrnod yn olynol wedi i gerbyd oedd dros ei bwysau ei chroesi.
Dywedodd Traffig Cymru bod y bont wedi'i chau dros dro wrth i archwiliad gael ei gynnal.
Cafodd ei hail-agor am 12:50.
Dyma’r trydydd tro mewn wythnos i’r bont gael ei chau wedi i gerbyd oedd dros y terfyn pwysau o 7.5 tunnell ei chroesi.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont y bore yma, mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.
“Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
“Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n cael defnyddio Pont y Borth.”
Eisteddfod
Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mercher ar gyfer y pumed diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod ar ôl i'r bont gau ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai trydydd croesiad dros y Fenai yn "ateb amlwg" i drafferthion teithio'r ardal.
"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw a thrwsio rŵan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai.
"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."
Yn ôl y Prif Weinidog, mae "trydydd croesiad yn ateb amlwg".
"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai.
"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rŵan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siŵr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."