Pont y Borth wedi cau ddwywaith dydd Mercher
Pont y Borth wedi cau ddwywaith dydd Mercher
Mae Pont y Borth wedi cael ei chau am yr eildro ddydd Mercher wedi i gerbyd arall oedd dros ei bwysau ei chroesi.
Cafodd y bont ei chau toc wedi 12.00 yn dilyn amheuon fod cerbyd dros y terfyn pwysau o 7.5 tunnell wedi ei chroesi yn y bore.
Cafodd y bont ei hail-agor am gyfnod am 12.50, ond mewn diweddariad am 13.30, dywedodd Traffig Cymru bod y bont wedi’i chau unwaith eto oherwydd bod “cerbyd trwm ychwanegol” wedi croesi’r bont.
Dywedodd llefarydd: “Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont y prynhawn yma, mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.
“Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
“Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n cael defnyddio Pont y Borth.”
Roedd adroddiadau fod tagfeydd traffig ar yr A55 ger Pont Britannia amser cinio yn dilyn cau Pont Menai.
Eisteddfod
Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mercher ar gyfer y pumed diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod ar ôl i'r bont gau ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai trydydd croesiad dros y Fenai yn "ateb amlwg" i drafferthion teithio'r ardal.
"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw a thrwsio rŵan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai.
"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."
"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai.
"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rŵan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siŵr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."