Rhybudd melyn am fellt a tharanau ar draws rhan helaeth o Gymru
Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau wedi ei gyhoeddi ar draws rhannau helaeth o Gymru brynhawn a nos Fercher.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 15:00 a hanner nos ar 27 Mai.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai stormydd ddatblygu ar ôl diwrnod poeth arall, gyda glaw trwm iawn, mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion mewn rhai mannau.
Mae’r rhybudd yn cynnwys pob un o awdurdodau lleol Cymru, heblaw am Sir y Fflint.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae siawns dda y bydd amodau gyrru yn cael eu heffeithio gan ddŵr ar y ffordd, chwistrell dŵr neu genllysg, gan arwain at deithiau hirach mewn ceir a bysiau.
Mae oedi i wasanaethau trên hefyd yn bosib.
Mae’r rhybudd yn dweud y gallai mellt achosi rhywfaint o ddifrod i rai adeiladau a strwythurau, ac mae colli trydan neu wasanaethau eraill am gyfnod byr yn debygol mewn rhai ardaloedd.
Mae llifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau hefyd yn bosib, gyda’r potensial am ddifrod i adeiladau neu strwythurau.