Osian Roberts: 'Ennill Serie A yw'r nod i Como 1907'

Osian Roberts: 'Ennill Serie A yw'r nod i Como 1907'

Wedi i glwb pêl-droed Como 1907 sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf erioed, mae'r Cymro sy'n Bennaeth Datblygu y clwb wedi dweud wrth Newyddion S4C mai ennill y gynghrair yn yr Eidal ydy'r nod y tymor nesaf. 

Osian Roberts yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Mercher. 

Llwyddodd tîm Cesc Fabregas yn yr Eidal i gymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes wedi buddugoliaeth 4-1 yn erbyn Cremonese ar ddiwrnod olaf Serie A. 

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Como 1907 yn chwarae yn y bedwaredd haen, ond yn ogystal â gorffen uwchben rhai o fawrion Yr Eidal, gan gynnwys AC Milan a Juventus, fe fyddan nhw y tymor nesaf yn chwarae yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop. 

Y nod bellach yn ôl Osian Roberts yw ennill y gynghrair bêl-droed yn Yr Eidal. 

"Ennill Serie A. Eleni, ‘dan ni ’di gorffen uwchben AC Milan a Juventus, wrth gwrs, ma’ Roma a Napoli ag Inter uwch ein pennau ni, ‘di ddim yn mynd i fod yn hawdd," meddai.

"Ond ma’ rhaid i ni fod yn rhoi nod i ni’n hunain ag yn pwshiad ar gyfer hynny.

"Dwi’n meddwl oedd gan y perchnogion ryw syniad neu ryw obaith neu ryw freuddwyd y gallan ni gyrraedd y Champions League mewn pump i 10 mlynedd, ‘dan ni ‘di g’neud hynny mewn dwy flynedd, felly pam stopio yn fan na?"

Ychwanegodd: "Ma’ raid i ni gario ‘mlaen efo’r momentwm, parhau i weithio’n galed a gobeithio y gallan ni wireddu  a cyrraedd y nod yna o ennill y gynghrair Serie A blwyddyn nesa."

'Methu cyfle euraidd'

Mae'r ffaith fod Cymru heb gyrraedd Cwpan y Byd yn siomedig yn ôl Osian. 

"Dwi yn siomedig, ma' rhaid i fi ddeud, oherwydd o'n i'n meddwl bo' genna ni ddigon i fod yn ennill yn erbyn Bosnia ac wedyn yn erbyn Yr Eidal oherwydd does na'r un o'r ddau dîm yna yn well na ni yn fy meddwl i," meddai. 

"Dwi'n meddwl bo' ni wedi methu cyfle euraidd ond wrth gwrs, ma' rhaid i ni edrych ymlaen, anghofio a symud ymlaen, adeiladu rwan tuag at yr Euros oherwydd mae'r garfan yna, mae'r chwaraewyr yna."

Gyda dyfodol Craig Bellamy yn parhau yn ansicr, ychwanegodd Osian ei fod yn gobeithio y bydd yn parhau fel rheolwr y tîm cenedlaethol. 

"Y nod ydy wrth gwrs cyrraedd yr Euros, sut ydan ni yn mynd i neud hynny, pwy a ŵyr? Pwy fydd wrth y llyw, dwi ddim yn siwr.

"Adeg yma'r flwyddyn, ma' 'na lot o straeon am bob rheolwr a hyfforddwr sydd yn bodoli felly fydd rhaid aros a disgwyl. 

"Dwi'n gobeithio fydd Craig yn aros, ond yn sicr ma' rhaid i ni fod yn gwireddu y nod yna o gael yn ôl i'r twrnameintiau mawr, 'dan ni 'di colli allan ar ddau rwan, ma'n amser cael yn ôl i fewn yna."

Image
Osian Roberts yn dathlu buddugoliaeth hanesyddol Como 1907 ar ddechrau'r wythnos
Osian Roberts yn dathlu buddugoliaeth hanesyddol Como 1907 ar ddechrau'r wythnos

Ag yntau yn dathlu buddugoliaeth hanesyddol Como 1907, fe ddywedodd Osian ei fod yn bwysig iawn iddo ei fod yn bresennol ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher. 

"Yn enwedig gan bod hi yma ar y stepan drws i, cael fy nwyn i fyny yn Bodffordd ac wedi cael fy nwyn i fyny yn yr Eisteddfodau, ag o’dd hi’n bwysig i mi p’run bynnag i fod yn g’neud yr ymdrech yna," meddai wrth Newyddion S4C.

"O'n i‘n meddwl pan o’n i’n cynllunio ychydig fisoedd yn ôl pa ddiwrnod ‘swn i’n gallu bod yn rhydd o’dd hi’n anodd iawn deud oherwydd o’dd ‘na bosibiliadau play-offs ac yn y blaen, ond ma’ bob dim ‘di gweithio allan yn berffaith, a dwi yma, a ma’r tywydd fel  fasa hi’n Como."

Fe fydd hi'n noson fawr i glwb pêl-droed Crystal Palace nos Fercher wrth iddyn nhw wynebu Rayo Vallecano yn rownd derfynol Cynghrair Cyngres UEFA. 

Roedd Osian yn is-reolwr o dan Patrick Vieira yn y clwb rhwng 2021 a 2023, a fe fydd yn eu cefnogi nhw nos Fercher. 

"Clwb sydd yn agos iawn at fy nghalon i, felly dwi'n edrych ymlaen i wylio nhw'n chwarae heno, gobeithio'r gorau iddyn nhw," meddai. 

"Edrych ymlaen wedyn i groesawu Crystal Palace i Como yn yr haf, ma' nhw'n cystadlu yn y Como Cup hefo ni felly dwi'n falch iawn bod ni wedi medru perswadio nhw i ddod i Como. 

"Toedd o ddim yn waith anodd i ddeud y gwir, ond ma' nhw wedi cytuno i ddod a gobeithio pan y bydda i'n gweld nhw bryd hynny y byddan nhw'n dŵad fel enillwyr un o gystadlaethau mawr Ewrop."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.