Polanski yn gwrthod ymddiheuro am neges crys-T

Zack Polanski

Mae Zack Polanski wedi gwrthod ymddiheuro i Nigel Farage ar ôl iddo rannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol o ddyn yn gwisgo crys-T gyda'r enw "Nigel" arno ochr yn ochr â delwedd o gilotîn.

Dywedodd llefarydd Reform UK dros faterion cartref, Zia Yusuf, fod y ddelwedd yn dangos "llun o ddyn yn galw am ddienyddio Nigel Farage". Ychwanegodd y gallai hynny fod yn "annog llofruddiaeth".

Mae Polanski wedi dileu'r llun ac wedi dweud nad oedd wedi darllen y slogan oedd ar y crys- T pan wnaeth o rannu'r llun.  

Wrth siarad gyda rhaglen BBC Newsnight dywedodd arweinydd y blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr na fydd yn ymddiheuro am "gamgymeriad anfwriadol". Dywedodd Polanski hefyd bod Farage wedi chwyddo'r mater mewn ffordd "gwbl anonest". 

Roedd Reform UK wedi cyfeirio'r mater at Heddlu'r Met. Er hynny mae Polanski yn dweud nad yw'r heddlu wedi cysylltu ag o. 

Fe ddechreuodd y ffrae nos Lun ar ol i Polanski rhannu llun o barti. Roedd y llun yn rhan o gyfres o 20 o luniau ac wedi dod gan ffotograffydd a oedd yn y digwyddiad. Roedd Polanski wedi derbyn cais y ffotograffydd i gydweithio ar Instagram. 

'Condemnio trais gwleidyddol'

Fe wnaeth arweinydd Reform UK, Nigel Farage ymateb trwy ddweud: "Pe bawn i'n postio unrhyw beth sy'n annog trais fel hyn, byddwn i'n disgwyl cael fy arestio, ac felly hefyd y dylai Polanski."

Fe ofynnwyd iddo ar y rhaglen os oedd eisiau ymddiheuro i Farage. Dywedodd Polanski: "Wel, pe byddwn i wedi gwneud hyn yn fwriadol byddwn i'n ymddiheuro, ond gan mai camgymeriad oedd hyn, dwi'n meddwl mai'r peth pwysig yw fy mod yn egluro mai camgymeriad oedd hyn, fy mod hefyd yn condemnio trais gwleidyddol, ac yn hollbwysig fy mod yn ymrwymo i wneud yn well ar y cyfryngau cymdeithasol."

Pan ofynnwyd iddo'r ail waith os oedd am ddweud sori fe wrthododd gan ddweud bod Farage wedi tocio'r llun i wneud iddo edrych fel pe bai o wedi'i bostio ei hun.

Ychwanegodd pan ofynwydd iddo'r trydydd gwaith os oedd am ymddiheuro y byddai Farage yn rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud "ei fod yn gywir ynghylch annog llofruddiaeth" pe bai'n gwneud hynny. 

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod yn tynnu llinell dan y mater a dwi ddim am chwarae ei gêm o... Mae'n bwysig ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel, mae'n bwysig ein bod yn condemnio trais gwleidyddol, ond dwi hefyd yn cydnabod mai ymosodiad gwleidyddol yw hwn," meddai. 

'Ddim yn ffit i arwain'

Dywedodd hefyd y byddai yn barod i ddweud sori os y byddai Nigel Farage yn gwneud yr un peth "am yr holl adegau y mae o wedi rhoi pobl mewn perygl". 

Ddydd Mawrth fe ddywedodd Polanski ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w fywyd.

Mae llefarydd ar ran Reform UK wedi dweud wrth rhaglen BBC Newsnight: "Mae'n wirioneddol syfrdanol ac, a dweud y gwir, yn gwbl ffiaidd nad yw Zack Polanski yn fodlon ymddiheuro am annog llofruddiaeth.

"Mae'n cyfaddef ei fod yn anghywir. Mae'n cyfaddef ei fod yn beryglus, ond mae'n dal i wrthod ymddiheuro. Dyw Mr Polanski ddim yn ffit i arwain plaid wleidyddol genedlaethol."

Yn ôl Heddlu'r Met does dim diweddariad ar y gwyn wnaethon nhw dderbyn ddydd Llun. 

Llun: Ben Whitley/PA

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.