Daergryn Japan: 'Gweithio yn erbyn y cloc' i achub pobl
Mae Prif Weinidog Japan, Sanae Takaichi, wedi dweud bod y gwasanaethau brys "yn gweithio yn erbyn y cloc" i achub pobl yn dilyn y daeargryn a darodd y wlad 24 awr yn ôl.
Mae o leiaf 13 o bobl wedi marw ers i'r daeargryn nerthol daro talaith Kumamoto, ar un o brif ynysoedd Japan yn ne-orllewin y wlad.
Mae'r ymdrechion achub yn parhau ar ôl i'r daeargryn, oedd yn mesur 6.8 ar raddfa Richter, achosi i ganolfan siopa a ffatri bapur ddymchwel yn Yatsushiro.
Digwyddodd ffrwydrad yn y ganolfan siopa yn fuan ar ôl i'r daeargryn daro.
Mae safleoedd hanesyddol yn yr ardal hefyd wedi cael eu difrodi.
Cafodd 4,600 o weithwyr brys eu hanfon i'r ardal i gymryd rhan yn yr ymdrechion achub.
Yn ôl Takaichi, mae yna bobl sy'n "dal angen help".
Dywedodd y Prif Weinidog fod tua 450 o ganolfannau gwacáu ar agor, a bod 7,700 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Yn ôl swyddogion, mae angen i dimau achub a'r rhai sydd wedi goroesi'r daeargryn gymryd gofal oherwydd bod yna ddisgwyl tywydd poeth.
Gallai'r tymheredd gyrraedd 35°C yno yn ystod y dydd.
Llun: Kyodo via Reuters Connect
