Apêl heddlu wedi i 60 o fêls gwair gael eu dwyn o fferm ym Môn

Bels gwair

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio wedi i 60 o fêls gwair gael eu dwyn o fferm ym Môn yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol.

Dywedodd y llu eu bod wedi cael eu dwyn unrhyw bryd rhwng dydd Gwener 17 Gorffennaf a dydd Sul 26 Gorffennaf o gaeau yn ardal Llanddona. 

Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Rhys Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad fod yr heddlu yn apelio ar unrhyw un a oedd wedi gweld y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu. 

"Mae'r bêls yn union yr un fath â'r rhai a welwyd yn y fideo, ac fe’i cafodd eu dwyn yn ystod cyfnod Sioe Frenhinol Cymru, pan oedd llawer o ffermwyr lleol i ffwrdd," meddai. 

“Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble mae’r bêls yma, neu sy’n gwybod unrhyw beth a all ein helpu gyda'n hymchwiliad gysylltu â mi trwy ffonio 101, neu trwy'r wefan gan ddefnyddio'r ddolen isod, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000610070.”
 
Llun: HGC Tîm Troseddau Cefn Gwlad

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.