Dyn anabl o Geredigion yn dweud ei fod yn gorfod byw yn y gegin

ITV Cymru
Peter Bakewell

Mae dyn o Geredigion yn dweud ei fod wedi gorfod byw yn ei gegin am dros ddwy flynedd a hanner oherwydd bod lifft grisiau ei gartref wedi torri.

Mae Peter Bakewell, o Lanfarian ger Aberystwyth, yn defnyddio cadair olwyn ac wedi byw yn yr un eiddo ers dros ddegawd.

Pan symudodd yno am y tro cyntaf, roedd yr eiddo'n cael ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion. Ers hynny mae Cymdeithas Tai Barcud wedi cymryd drosodd.

Mae Mr Bakewell yn dweud, er gwaethaf sawl ymgais, nad yw'r cyngor na Barcud wedi dod i osod lifft grisiau newydd yn lle'r un sydd wedi'i gondemnio.

Mae Cymdeithas Tai Barcud wedi dweud eu bod yn "archwilio'r holl opsiynau ymarferol, gan gynnwys dod o hyd i gartref arall sy'n addas" os nad oes modd addasu eiddo mewn ffordd "diogel" neu "rhesymol". 

'Dim help gan neb' 

"Mae'n rhaid i fi wneud popeth yn y gegin. Fy molchi, popeth mewn un ystafell, sef yr ystafell lle dylwn i fod yn bwyta. Dydi hynny ddim yn lân iawn.

"Dwi ddim wedi gallu ymolchi'n iawn ers tair blynedd oherwydd bod yr ystafell wlyb (wet room) i fyny'r grisiau.

"Dwi wedi gofyn i bobl a oes unrhyw le o gwbl lle galla i fynd i gael cawod. 

Mae hefyd yn dweud nad ydy o yn gallu cysgu yn ei wely ei hun.

"Dydw i ddim yn cysgu'n iawn. Dwi'n cael ambell gwsg byr yma neu gyda fy mhen yn erbyn y wal. Mae gen i fy ystafell 

"Mae gen i fy ystafell wlyb fy hun i fyny'r grisiau, ac mae gen i wely braf a chyfforddus. Dwi wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu, wedi defnyddio fy holl gynilion, ond dwi ddim yn cael unrhyw help gan neb."

Mae'n dweud ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei "anwybyddu'n llwyr" gan y cyngor a'r gymdeithas dai.

"Dwi jest eisiau cael fy mywyd yn ôl am yr ychydig flynyddoedd sydd gen i ar ôl.

"Dwi'n berffaith hapus yma. Mae'r tŷ yn addas, ond dwi ddim yn cael help gydag unrhyw beth. Dwi hyd yn oed wedi cynnig talu am y lifft grisiau fy hun.

Mae Anabledd Cymru wedi dweud bod sefyllfa Mr Bakwell yn "gywilyddus". 

Dywedodd Alex Harrison: "Dwi ddim yn meddwl y byddai unrhyw un ohonom ni eisiau gadael ein cartref ar ôl ei wneud yn gartref i ni am gymaint o flynyddoedd. 

"Yn yr achos hwn mae'n ymddangos yn hurt eu bod nhw am ei symud i dŷ arall y bydd yn rhaid iddyn nhw ei addasu, yn hytrach na sicrhau bod y tŷ mae e eisiau aros ynddo yn hygyrch iddo.

"Mae wedi treulio amser ac arian yn gwneud y tŷ yn gartref iddo, ac erbyn hyn mae'n cael gwybod bod rhaid iddo symud. Mae hynny'n wirioneddol gywilyddus."

'Archwilio'r holl opsiynau'

Mewn datganiad ar gyfer ITV Cymru Wales, dywedodd Cymdeithas Tai Barcud:

"Mae ein dull yn cael ei lywio gan asesiadau annibynnol gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys argymhellion gan dimau gofal iechyd arbenigol a Therapyddion Galwedigaethol.

"Pan na ellir addasu eiddo'n rhesymol nac yn ddiogel i ddiwallu anghenion tenant nawr nac yn y dyfodol, byddwn yn archwilio'r holl opsiynau ymarferol, gan gynnwys dod o hyd i gartref arall sy'n addas i amgylchiadau'r unigolyn.

"Rydym yn cydnabod y gall symud cartref fod yn brofiad anodd ac emosiynol, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi tenantiaid drwy'r broses gyda sensitifrwydd a dealltwriaeth."

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud eu bod mewn cysylltiad gyda Mr Backwell ond nad oes modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol.

Llun: ITV Cymru 

 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.