Penodi'r Parchedig Nia Catrin Williams yn Ddeon Cadeirlan Bangor
Mae'r Parchedig Nia Catrin Williams wedi ei phenodi'n Ddeon Cadeirlan Bangor ac yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol.
Bydd yn dechrau yn y swydd ym mis Ionawr 2027.
Ar hyn o bryd, mae’r Parchedig Williams yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, sy’n cynnwys chwe eglwys: Penygroes, Llanllyfni, Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog a Llanwnda.
Dychwelodd i Esgobaeth Bangor yn gynharach eleni, ar ôl gwasanaethu fel caplan yn y Lluoedd Arfog.
Mae’n olynu’r Gwir Barchedig Manon Ceridwen James a gafodd ei hethol yn Esgob Bangor ym mis Mehefin.
Mae’r Parchedig Williams yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad mewn gweinidogaeth ordeiniedig.
Bu’n Ganon dros Genhadaeth yng Nghadeirlan Bangor rhwng 2012 a 2015.
Pennod newydd wedi cyfnod cythryblus
Daw’r penodiad wrth i Gadeirlan Bangor barhau i fynd i’r afael â phryderon a godwyd mewn dau adolygiad diogelu yn 2024.
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, mae’r Esgob James a thîm y Gadeirlan wedi gweithio i fynd i’r afael â’r pryderon hynny dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r Parchedig Williams yn parhau â’r gwaith hwn.
Dywedodd y Parchedig Williams ei bod yn “fraint aruthrol” cael ei phenodi’n Ddeon Cadeirlan Bangor.
"Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd ar ôl gwasanaethu fel Canon dros Genhadaeth a Chaplan y Brifysgol dros ddegawd yn ôl," meddai.
"Gan adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu y mae’r Esgob Manon a thimau’r esgobaeth a’r Gadeirlan eisoes wedi’i wneud, hoffwn barhau i ddatblygu’r Gadeirlan yn le o weddi a chroeso i bobl y ddinas, a hefyd yn fam eglwys yr esgobaeth.
"Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd fel cymuned i dyfu’n ddisgyblion a helpu i ddod â’r genhedlaeth nesaf at Grist."
Dywedodd yr Esgob James fod y Parchedig Williams mewn "sefyllfa arbennig o dda" i arwain y Gadeirlan a Bro Deiniol i’r bennod nesaf.
"Yn ogystal â’i phrofiad fel offeiriad plwyf, mae ei gwasanaeth fel Caplan yn y Fyddin wedi rhoi iddi arbenigedd helaeth mewn gofal bugeiliol, datblygu timau a datrys anghydfodau, ynghyd â’r gallu i arwain gydag empathi a gwytnwch drwy gyfnodau o her a newid," meddai.
"Bydd ei chreadigrwydd, ei hegni a’i phrofiad helaeth o weinidogaethu gyda phlant a phobl ifanc yn datblygu ymhellach faes sy’n ganolog i genhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan."
Cafodd y Parchedig Williams ei hordeinio yn offeiriad yng Nghadeirlan Llanelwy yn 1999, a dechreuodd ei gweinidogaeth fel curad cynorthwyol ym Mywoliaeth Reithorol Llanrhos.
Gwasanaethodd wedyn ym Mrynymaen a Bae Colwyn. Bu hefyd yn Swyddog Pobl Dan 25 Oed Esgobaeth Llanelwy, cyn dod yn ficer Tywyn a Llansansiôr.
Ymunodd ag Esgobaeth Bangor yn 2008 fel ficer Glanogwen a Llanllechid gyda Mynydd Llandegai, ac yn ddiweddarach bu’n Ddeon Ardal Ogwen.
Yn ystod ei chyfnod fel Canon dros Genhadaeth yng Nghadeirlan Bangor, bu hefyd yn gaplan Anglicanaidd Prifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid yr esgobaeth. Bu’n gwirfoddoli gyda Bugeiliaid Stryd Bangor a Llu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.
Yn 2016, ymunodd y Parchedig Williams ag Adran Caplaniaid y Fyddin Frenhinol.
Yn ystod ei gwasanaeth, gweithiodd yn y DU a Gwlad Belg, a chymerodd ran mewn ymgyrchoedd gyda’r Cenhedloedd Unedig a NATO.
Cyn dychwelyd i’r esgobaeth eleni, gwasanaethodd yng Nghyprus fel caplan wrth gefn gyda’r Llu Awyr Brenhinol.
Mae’n parhau i gefnogi RAF y Fali pan fo angen.
