‘Maen nhw’n defnyddio fy wyneb i dwyllo pobl’: Sgamiau AI yn cynyddu bron i 500%

Y Byd ar Bedwar

‘Maen nhw’n defnyddio fy wyneb i dwyllo pobl’: Sgamiau AI yn cynyddu bron i 500%

Mae artist tatŵ o'r de yn dweud bod pobl wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial i addasu lluniau ohoni er mwyn twyllo cwsmeriaid i anfon arian.

Mae Report Fraud wedi gweld cynnydd o 469% yn nifer yr adroddiadau am dwyll sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) rhwng 2023 a 2025.

Mae Charl Davies o Lynebwy wedi cal ei thargedu gan sgamwyr sy’n defnyddio AI i fanteisio ar boblogrwydd ei busnes.

Mae’r sgamwyr sy’n targedu Charl yn defnyddio deallusrwydd artiffisial wedi creu nifer o gyfrifon ffug ar y platfform cyfryngau cymdeithasol TikTok i’w dynwared.

Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Charl: “‘Dw i jyst yn rili grac bod sgamwyr yn defnyddio AI. Maen nhw’n defnyddio gwyneb fi, gwaith fi, enw fi, i dwyllo pobl.”

Wrth sôn am y symiau mae cwsmeriaid Charl wedi colli o ganlyniad i’r sgamiau hyn, dywedodd: “‘Dw i ddim yn siarad am £50, dw i'n siarad am £600."

Mae Charl, sydd wedi ymddangos ar raglen boblogaidd MTV Just Tattoo of Us, yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf i hyrwyddo’i gwaith. 

“Mae hyn yn cael effaith fawr ar fy ngwaith i. Mae fe 'di cymryd lot o amser i adeiladu busnes fi, ac mae hyn yn cael effaith negyddol. Mae fe 'di cymryd y pleser allan o fusnes fi.”

Image
Cafodd sawl cyfrif ei greu dan enw Charl
Cafodd sawl cyfrif ei greu dan enw Charl

Mae Charl wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio TikTok yn ddiweddar. Mae hi’n dweud nad yw’r platfform yn gwneud digon i ddelio â chyfrifon ffug.

“‘Dwi'n riportio nhw ac wedyn mae TikTok yn dweud, ‘Does dim canllawiau cymunedol wedi'u torri.’ Ond maen nhw [y sgamwyr] yn dwyn fy wyneb.”

Mae Charl hefyd wedi adrodd y twyll i Report Fraud, sef gwasanaeth cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer adrodd twyll a throseddau ar-lein.

“Maen nhw ddim yn gallu helpu fi achos does dim cyfraith yn ei lle i ddweud bo’ fi'n ddioddefwr hefyd, achos dydyn nhw ddim yn dwyn arian fi. Ond maen nhw'n dwyn fy wyneb, fy ngwaith, fy enw. Felly, sut ydw i ddim yn ddioddefwr hefyd?

“Dw i’n teimlo’n ddigalon, siomedig.

“Maen rhaid i ni gael cyfraith mewn lle i ddiogelu pobl fel fi, ble mae rhaid i ti brofi hunaniaeth ti i agor cyfrif cyfryngau cymdeithasol.”

'Esgeuluso diogelwch'

Mae Sam Stockwell yn cydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio dylanwadu ar a siapio polisïau AI i ddiogelu’r cyhoedd rhag y peryglon.

Mae Mr Stockwell yn gweithio yng Nghanolfan Technolegau Newydd a Diogelwch Sefydliad Alan Turing yn Llundain. Dyma sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

Mae'n poeni bod cwmnïau wedi rhoi cyflymder o flaen diogelwch wrth ryddhau technoleg AI, gan ei gwneud hi’n haws i sgamwyr ddefnyddio’r dechnoleg.

“O’dd ‘na gymaint o bwysau ar gwmnïau i ryddhau’r dechnoleg yma cyn eu cystadleuwyr. Ond yn anffodus, mae hynny wedi golygu bod diogelwch wedi cael ei esgeuluso er mwyn rhyddhau’r dechnoleg yn gyflymach. ‘Mond nawr ni’n dechrau dal i fyny i geisio sicrhau nad yw’r dechnoleg yn creu’r math yma o gynnwys.”

Yn ôl Sam, mae angen cydweithrediad rhwng y platfformau cyfryngau cymdeithasol a’r cwmnïau AI i fynd i’r afael â'r broblem. 

“Gallwn ni geisio gofyn iddyn nhw dynnu’r cynnwys yma i lawr pan ni’n gweld e, neu pan mae’n cael ei fflagio gan ddefnyddwyr, ond mae’r amser rhwng y cynnwys yn cael ei fflagio a phryd mae e’n cael ei dynnu i lawr yn gallu bod yn hir iawn.

“Un rhan o’r broblem yw’r cwmnïau AI, rhan arall yw’r platfformau cyfryngau cymdeithasol, a rhan arall yw gorfodi’r rheolau. Dw i ddim yn meddwl bod trïo mynd i’r afael â’r broblem heb gydweithrediad pawb yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth.”

Image
Samuel Stockwell
Mae Samuel Stockwell (gwisgo tei) yn dweud bod cwmniau AI wedi "esgeuluso diogelwch".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod rhaid i gwmnïau amddiffyn defnyddwyr rhag cynnwys twyllodrus anghyfreithlon, gan gynnwys cynnwys sy’n defnyddio AI, o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd rhaid i blatfformau mawr wneud mwy i amddiffyn defnyddwyr rhag hysbysebion twyllodrus. Bydd hyn yn cynnwys rhoi’r cyfle i ddefnyddwyr wirio a phrofi pwy ydyn nhw, er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i ddefnyddwyr eraill.

Yn ôl TikTok, maen nhw wedi dileu cyfrifon sy’n torri eu rheolau ar ddynwared pobl eraill, a dydyn nhw ddim yn caniatáu unrhyw ymgais i dwyllo pobl er mwyn cael arian ganddyn nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n parhau i fuddsoddi yn eu systemau i geisio atal ymddygiad twyllodrus a chamarweiniol ar y platfform.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Amanda Wolf, Pennaeth Gweithrediadau Report Fraud, eu bod nhw’n cydnabod pa mor anodd gall adrodd twyll fod, a’u bod nhw eisiau gwneud y broses yn haws i bobl fel Charl.

Yn achos Charl, dywedon nhw eu bod wedi’i chyfeirio at Gyngor ar Bopeth am gymorth pellach, a’u bod nhw’n deall pa mor rwystredig yw cael eich hunaniaeth wedi’i ddwyn.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: AI - Pwy Sy’n Twyllo?, nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.