Mae'r Tra Pharchedig Dr Manon Ceridwen James wedi cael ei hethol yn Esgob Bangor.
Daw ei phenodiad wedi cyfnod o bleidleisio cudd yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, ddydd Mawrth.
Manon Ceridwen James yw'r 82ain berson i ddwyn teitl Esgob Bangor, ac fe fydd yn gwasanaethu esgobaeth sydd yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Llŷn.
Wedi ei magu yn Nefyn, Manon Ceridwen James yw Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, a chafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1994 cyn bod ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio'n offeiriad yn yr esgobaeth yn 1997.
Mae hi wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy yn ogystal â dal amrywiaeth o rolau esgobaethol mewn hyfforddiant, addysg a galwedigaethau, yr olaf ohonynt oedd fel Cyfarwyddwraig Gweinidogaeth.
Rhwng 2018 a 2025 roedd Manon yn Ddeon Hyfforddiant Gweinidogol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd.
Wedi i’r bleidlais gyrraedd mwyafrif o ddwy ran o dair o'r pleidleiswyr, cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth ddrws Eglwys y Drindod Sanctaidd, gan gadarnhau Manon Ceridwen James fel yr esgob-etholedig i arwain Esgobaeth Bangor.
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann: "Y mae Manon yn adnabyddus i bobl yr esgobaeth ac mi fydd yn gaffaeliad i'r esgobaeth, y Dalaith ac i Fainc yr Esgobion.
“Rydym wrth ein bodd ei bod wedi ei hethol a dymunwn bob bendith arni wrth iddi gamu i'r weinidogaeth newydd."
Yn dilyn yr etholiad mae gan yr esgob-etholedig hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd yn ffurfiol.
Os byddant yn gwneud hynny, bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol yng nghyfarfod yr esgobion yn y synod sanctaidd, gyda'r cysegriad a'r gorseddu yn dilyn maes o law.
Y Cefndir
Dyma’r ail ymgais i benodi esgob newydd i Fangor ers ymddeoliad Andrew John.
Ym mis Chwefror dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, na fyddai hi’n yn "bwrw ymlaen" â'r broses o benodi esgob dros dro ar gyfer yr esgobaeth.
Daeth hynny ar ôl proses o gynnal cyfweliadau, meddai.
Dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, bryd hynny bod "rhaid i unrhyw broses o ddirnad fod yn agored i’r posibilrwydd nad yw’n briodol bwrw ymlaen yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio”.
"Dyna sydd wedi digwydd ar yr achlysur hwn, ac felly ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro,” meddai.
"Yn hytrach, rwy’n mynd i ofyn i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethu ailgychwyn proses y coleg etholiadol."
Wrth hysbysebu y swydd am yr eilwaith dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod yr esgobaeth wedi “bod drwy’r felin” dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae'r esgobaeth yn codi unwaith eto ar ei thraed ar ôl yr anawsterau a brofwyd, ac er y bydd rhan bwysig o weinidogaeth yr esgob newydd yn sensitif i'r angen am ofal parhaus i'r rhai sydd wedi'u cleisio gan ddigwyddiadau diweddar, mae'r angen am obaith a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig,” meddai manyldeb yr hysbyseb swydd.
Daw hyn ar ôl cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn a arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin y llynedd.
Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.
Ym mis Medi y llynedd dywedodd llefarydd fod y sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025, a'u bod yn cynnal ymgynghoriad ar ddiswyddiadau posibl.
Yna fe gyhoeddwyd adroddiad ym mis Mawrth eleni oedd yn edrych ar waith dwy elusen o fewn yr Esgobaeth, sef Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor (BCEB) ac Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor (YEB).
Roedd yr adroddiad hwnnw yn disgrifio "dirywiad llywodraethiant da a phrosesau priodol o fewn yr elusennau dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy”.
Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r elusennau hyn "fod wedi’u harwain gan leygwyr, a dylai’r BCEB fod wedi gweithredu fel gwrthbwysedd a chyfaill beirniadol i ffocws gweinidogaethol yr Esgob."
"Collwyd y tensiwn cadarnhaol hwnnw, a chollodd byrddau’r ymddiriedolwyr olwg ar eu swyddogaeth a’u pwysigrwydd," meddai awduron yr adroddiad, sef Jim Clifford OBE ac Alice Hulbert o Sonnet Advisory & Impact, arbenigwyr ym maes elusennau.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod "cynnydd sylweddol wedi’i wneud i unioni’r sefyllfa" erbyn hyn.