Cynghorau'n lleisio pryderon am y cynnydd mewn tybaco a fêps anghyfreithlon
Mae tri chyngor yn ne Cymru yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y cynnydd mewn siopau sydd yn gwerthu cynnyrch tybaco a fêps anghyfreithlon a grwpiau troseddol.
Cafodd dros £445,000 o gynnyrch anghyfreithlon ei feddiannu o fusnesau gan swyddogion cynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2025/26, fel rhan o ymgyrch ar y cyd i fynd i’r afael â manwerthu anghyfreithlon.
Cafodd 95 o arolygon eu cynnal ar fusnesau er mwyn targedu gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon, gyda chynnyrch yn cael ei feddiannu gan swyddogion mewn 61 achos.
Fe gafodd 86 achos eu cynnal o anfon person dan oed i brynu nwyddau mewn siopau dros y cyfnod yma hefyd.
Mae'r data, a gafodd ei ryddhau mewn cynllun ar y cyd rhwng y tri chyngor, yn lleisio pryderon am y risg cynyddol o gynnyrch fel alcohol, tybaco, fêps, tân gwyllt a chyllyll yn cael eu gwerthu i gwsmeriaid dan oed, yn ogystal â chynnyrch ffug anniogel, fel teganau Labubu ffug.
Mae hefyd yn amlygu pryderon dros gamfanteisio ar weithwyr bregus, a sut y gallai busnesau manwerthu gael eu defnyddio i guddio neu alluogi gweithgareddau troseddol.
Bydd aelodau Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Cyngor Caerdydd yn trafod y ffigyrau ddydd Llun.
Mae'r adroddiad i'r pwyllgor yn nodi bod pryder am y pwysau “sylweddol a chynyddol ar wasanaethau rheoleiddiol” yn sgil y twf mewn gwerthu nwyddau anghyfreithlon.
'Effaith negyddol ar yr ardal'
Dywedodd awduron yr adroddiad: “Mae aelodau’n dymuno ymchwilio i sut mae Cyngor Caerdydd a sefydliadau partner yn ymateb i’r twf mewn safleoedd manwerthu sydd â chysylltiadau i weithgaredd anghyfreithlon neu niweidiol, gan gynnwys tybaco a fêps anghyfreithlon, gwerthiannau dan-oed a chynnyrch anniogel.
“Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried cysylltiadau posibl â grwpiau troseddau cyfundrefnol a gangiau, gwyngalchu arian, camfanteisio troseddol, a’r defnydd o bobl agored i niwed a/neu safleoedd masnachol i guddio neu hwyluso gweithgaredd anghyfreithlon ehangach.
“Mae’r mater o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd oherwydd yr effaith ar iechyd y cyhoedd, diogelwch cymunedol, diogelu defnyddwyr, busnesau cyfreithlon, yr economi leol, ac ymddangosiad a bywiogrwydd canol dinas Caerdydd, canolfannau siopa lleol a strydoedd mawr yr ardal.
“Mae cynghorwyr lleol a chymunedau wedi mynegi pryderon am y cynnydd yn nifer y safleoedd o’r fath a’r problemau sy’n gysylltiedig â nhw, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwastraff, effaith negyddol ar ymddangosiad yr ardal, a’r effaith ar hyder pobl mewn ardaloedd siopa lleol.”
Fel rhan o'r cynllun ar y cyd rhwng y tri chyngor, Heddlu De Cymru, Safonau Masnach a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, bydd ymchwiliadau’n parhau i asesu’r cysylltiadau rhwng y busnesau dan sylw a gangiau troseddol.
Nod yr ymgyrch yw i “ddiogelu’r bregus, cefnogi’r economi leol, diogelu iechyd a lles a gwneud y mwyaf o adnoddau”.
Daw’r ymgyrch wedi i’r Prif Weinidog Andy Burnham gyhoeddi camau newydd i fynd i’r afael â’r “twf o siopau fêps a siopau betio nad oes eu hangen” ar stryd fawr yn Lloegr ym mis Awst eleni.
Cyhoeddodd newidiadau i bolisi cynllunio cynghorau yn Lloegr, fel y bydd angen i fanwerthwyr sydd am agor siopau sy’n gwerthu sigaréts electronig ofyn am ganiatâd cynllunio gan eu cyngor lleol.
