Cynghorau Lloegr i gael rhagor o rymoedd i wrthod caniatáu siopau fêps
Bydd camau newydd yn Lloegr yn atal agor siopau betio a siopau 'fêps' yn rhoi’r “grym i gymunedau lleol i newid pethau er gwell”, yn ôl y Prif Weinidog Andy Burnham.
Cyhoeddodd Mr Burnham ei gynlluniau newydd wrth ymweld ag Ilkeston yn Sir Derby ddydd Mawrth, lle dywedodd fod strydoedd mawr “wedi’u gwagio, yn enwedig mewn ardaloedd a oedd yn arfer bod yn ganolfannau diwydiannol”.
Cyhoeddodd newidiadau i bolisi cynllunio cynghorau yn Lloegr, fel y bydd angen i fanwerthwyr sydd am agor siopau sy’n gwerthu sigaréts electronig ofyn am ganiatâd cynllunio gan eu cyngor lleol.
Mae siopau fêps yn dod o dan gategori cynllunio o’r enw 'Dosbarth E', categori eang sy’n cynnwys siopau, caffis a banciau.
Yng Nghymru mae disgwyl i'r llywodraeth yma gyhoeddi'n fuan eu bwriad i fynd i'r afael â phroblemau'r stryd fawr, gan gynnwys sut i gyfyngu ar niferoedd rhai siopau.
Bydd gan gynghorau Cymru hefyd hawl i gau siopau bychain a siopau fêps sy'n gwerthu tobaco'n anghyfreithlon am hyd at 12 mis o dan yr argymhellion newydd.
Angen caniatád
Drwy roi'r siopau fêps yn Lloegr mewn categori “sui generis” - mewn dosbarth ar wahân - mater y bydd Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori arno - y gred yw y byddai angen i bob cynllun i agor siop fêps dros y ffin fynd drwy’r broses gymeradwyo cyn cael yr hawl i agor.
Ar hyn o bryd mae pob cais yn derbyn y dybiaeth y bydd yn cael ei ganiatáu.
“Mae pryder gwirioneddol ledled y wlad - a theimlais hynny yn is-etholiad Makerfield - am ein strydoedd mawr sydd wedi colli eu bywiogrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd a oedd yn arfer bod yn ddiwydiannol, ac sydd wedi bod ar i lawr ers amser maith,” meddai Mr Burnham wrth newyddiadurwyr.
“Ac rwyf am roi’r pŵer i gymunedau lleol i droi pethau o gwmpas.
“Mae hynny’n golygu cymryd camau llym yn erbyn rhai o’r busnesau sy’n achosi niwed mewn cymunedau, ac yna cefnogi’r rhai sy’n dod â bywyd yn ôl i’r stryd fawr.
“Felly, rydym yn cyhoeddi newidiadau mawr heddiw i roi mwy o reolaeth i gymunedau dros gynllunio o ran siopau fêps, canolfannau hapchwarae i oedolion, a hefyd nifer cynyddol y siopau betio, drwy gael gwared ar y polisi o ragdybio y dylid rhoi caniatâd.”
Trethi busnes
Ond dywedodd Syr James Cleverly, Ysgrifennydd Cymunedau yr Wrthblaid Geidwadol yn San Steffan yn flaenorol mai “cynnydd Llafur mewn trethi busnes” sydd wedi “gwagio” y stryd fawr.
Dywedodd: “Gall pawb weld beth sydd wedi digwydd i’n strydoedd; mae siopau a oedd unwaith yn cael eu gwerthfawrogi yn cael eu disodli gan nifer fechan o weithredwyr amheus, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau â throseddu trefnedig a thwyll.”
Ychwanegodd Syr James: “Byddai’r Ceidwadwyr yn torri trethi busnes ar gyfer busnesau’r stryd fawr ac yn cefnogi’r busnesau bach sy’n rhoi cymeriad i ganol tref.
“Oni bai bod y Llywodraeth yn cymryd camau i gefnogi’r stryd fawr a busnesau sy’n gweithio’n galed, dim ond mwy o siopau gwag a byrddau pren dros y ffenestri fydd canlyniad y cynnydd a wnaed gan Lafur yn y rheoliadau cynllunio.”
'Math deniadol' o siopau
Dywedodd llefarydd Trysorlys Reform UK, Robert Jenrick, y byddai’r diwygiadau’n gweithio dim ond “os bydd y Llywodraeth a’r cynghorau lleol yn ei gwneud yn ddeniadol i’r math cywir o siopau agor yn eu lle”, drwy leihau’r baich treth.
Rhybuddiodd Max Wilkinson, llefarydd materion cartref y Democratiaid Rhyddfrydol, oni bai bod y Prif Weinidog yn “cryfhau pwerau i fynd i’r afael yn effeithiol â siopau fêps a gweithredwyr amheus, gallai cynlluniau Burnham fynd i fyny mewn mwg”.
Ychwanegodd: “Mae ein strydoedd mawr mewn argyfwng, felly ni fydd cymryd risg a gobeithio y bydd y newidiadau bach hyn yn ddigon, yn ddigon i lwyddo.
“Dylai gael gwared ar y system ardrethi busnes sydd wedi methu a rhoi pwerau newydd helaeth i gynghorau ar frys, er mwyn i strydoedd mawr ffynnu ac i swyddogion safonau masnach allu cau busnesau sy’n troseddu dro ar ôl tro yn barhaol.”