Cais i adeiladu 24 o gartrefi fforddiadwy ar hen safle Jewson ym Mangor

Dyluniad o'r tai newydd ar hen safle Jewson ym Mangor
Cais cynllunio i adeiladu tai cymdeithasol ar hen safle Jewson ym Mangor

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i adeiladu 24 o gartrefi fforddiadwy ar hen safle Jewson ym Mangor.

Mae cymdeithas dai Adra wedi cyflwyno cais i Gyngor Gwynedd i ddatblygu’r tir yn ardal Hirael o’r ddinas, sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd.

Byddai’r 24 cartref yn cynnwys 18 o gartrefi rhent cymdeithasol a chwe chartref rhent canolradd, yn ôl y cais cynllunio.

Ymhlith y cartrefi rhent cymdeithasol byddai 12 fflat ag un ystafell wely ar gyfer dau berson, dau fflat â dwy ystafell wely ar gyfer tri pherson, tri thŷ â dwy ystafell wely ar gyfer tri pherson, ac un tŷ â phedair ystafell wely ar gyfer saith person.

Byddai’r chwe chartref rhent canolradd yn cynnwys tri thŷ â dwy ystafell wely ar gyfer pedwar person, a thri thŷ â thair ystafell wely ar gyfer pump o bobl.

Yn ôl y cais, byddai’r cymysgedd o dai fforddiadwy yn helpu 73 o bobl yng Ngwynedd i gael cartref newydd.

'Cyfrannu at adfywiad Bangor'

Roedd Jewson yn arfer gweithredu busnes deunyddiau adeiladu ar y safle, ond mae’r holl adeiladau wedi’u dymchwel ers hynny.

Mae’r tir bellach yn wag ac wedi gordyfu mewn mannau oherwydd diffyg cynnal a chadw.

Mae’r safle wedi bod yn destun nifer o geisiadau cynllunio dros y blynyddoedd.

Roedd hefyd wedi denu sylw Heddlu Gogledd Cymru ar ôl i ffatri ganabis gael ei darganfod yn hen adeiladau’r safle.

Yn ôl Adra, mae’r cynllun yn gyfle i gynnig cartrefi fforddiadwy "y mae mawr eu hangen" yn yr ardal.

"Ar y cyfan, mae’r cynnig yn cynrychioli ailddatblygiad sensitif o safle sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn lleoliad cynaliadwy sydd â chysylltiadau da," meddai’r cais.

"Mae’n cyd-fynd â pholisi cynllunio lleol a chenedlaethol, yn gwella cymeriad Hirael, ac yn trawsnewid darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn yn amgylchedd preswyl o safon uchel sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at adfywiad parhaus Bangor."

Byddai’r cynllun yn cynnwys 37 o leoedd parcio a mynedfa newydd i’r safle.

Byddai gerddi preifat y tu ôl i’r tai hefyd, yn ogystal ag 820 metr sgwâr o fan agored cyhoeddus.

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried y cais mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio’r cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.