Môn: 'Cyfradd isel o ffermwyr' sydd wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

ffarmwr

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn, mae undeb NFU Cymru yn dweud bod cyfradd isel y ffermwyr sydd wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar yr ynys “yn amlygu’r angen am newid.”

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Paul Williams, nad yw’r cynllun newydd, a gafodd ei lansio fis Ionawr eleni, yn “adlewyrchu realiti ffermio ar yr ynys.”

Yn ôl ffigyrau gan Lywodraeth Cymru, o’r 808 o ffermwyr ar yr ynys a wnaeth gais naill ai i fod yn rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy neu aros gyda'r hen system a fydd yn dod i ben yn 2029, sef y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), dim ond 264 (33%) sydd wedi dewis ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae hynny’n is na'r gyfradd yng Nghymru gyfan, lle mae 50.2% o ffermwyr wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

‘Ychydig iawn o opsiynau’

Fel rhan o'r cynllun newydd, mae'n rhaid i ffermwyr gyflawni 12 o weithredoedd cyffredinol er mwyn derbyn eu taliad cyffredinol.

Mae'r gweithredoedd cyffredinol yn cynnwys rheolaeth o sawl elfen amgylcheddol, megis iechyd pridd, coetiroedd a chynefinoedd, yn ogystal â gofalu am iechyd a llesiant anifeiliaid.

Mae Mr Williams yn dadlau bod angen ehangu “opsiynau cynefinoedd dros dro” er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithio i bawb yn y sector amaeth.

“Mae ein haelodau’n deall yn iawn bwysigrwydd sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, ac maent am weld y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gweithio ar gyfer pob sector, pob math o fferm a phob rhan o Gymru,” meddai.

“Fodd bynnag, yr hyn rydym yn ei glywed gan ffermwyr ledled Môn yw nad yw’r cynllun o reidrwydd yn adlewyrchu realiti ffermio ar yr ynys.

“Mae llawer o ffermwyr yn teimlo mai ychydig iawn o opsiynau sydd ganddynt wrth geisio bodloni’r gofynion cynefinoedd, yn enwedig os nad oes ganddynt eisoes 10% o gynefin parhaol ar eu fferm.

“Mae angen ehangu’r ystod o opsiynau cynefinoedd dros dro er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio ar gyfer pob sector a phob rhan o Gymru, gan gynnwys y mathau o dir a’r systemau ffermio a geir fel arfer ym Môn.”

'Dylid symleiddio'r cynllun'

Ychwanegodd Mr Williams mai un enghraifft fyddai ychwanegu meillion coch fel opsiwn cynefin dros dro.

“Mae gan feillion coch nifer o fanteision. Fel planhigyn sy’n sefydlogi nitrogen ac sydd â gwreiddiau dwfn, mae’n gwella ffrwythlondeb a strwythur y pridd, ac mae ei flodau sy’n gyfoethog mewn neithdar yn ei wneud yn blanhigyn delfrydol ar gyfer denu peillwyr fel gwenyn,” meddai.

“Mae’n ymddangos yn ddewis delfrydol fel opsiwn cynefin dros dro o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno fel opsiwn ychwanegol ar gyfer 2027.

“Dylid symleiddio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i’w wneud yn fwy ymarferol ac yn fwy cyraeddadwy ledled Cymru, gan gydnabod, er enghraifft, fod y tymor tyfu yn amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol rannau o’r wlad.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi ymrwymo i edrych ar y rhwystrau sy’n atal ffermwyr eraill rhag ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o’r flwyddyn nesaf ymlaen. 

"Mae hefyd wedi cadarnhau y bydd ffermwyr Cymru yn derbyn dros £1 biliwn ar gyfer y cynllun yn ystod tymor y Senedd hon, gan roi’r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar y sector i gynllunio a buddsoddi’n hyderus.

“Y tu hwnt i’r cyhoeddiad rydym eisoes wedi’i wneud ynghylch y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid, byddwn yn parhau i drafod y rhwystrau rhag ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda rhanddeiliaid, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyfathrebu’n briodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.