‘Cael bod efo fy mhobl fy hun’: Caplan Sioe Môn yn cyfuno ffydd a ffermio

‘Cael bod efo fy mhobl fy hun’: Caplan Sioe Môn yn cyfuno ffydd a ffermio

Mae caplan Sioe Môn wedi dweud ei fod yn teimlo ei fod yn “dod adref” wrth fynychu’r digwyddiad bob blwyddyn.

Mae Llew Jones yn offeiriad plwyf ac yn Ddeon Archddiaconiaeth Môn, ond mae hefyd yn parhau i ffermio ar fferm ei deulu.

Bydd Sioe Môn eleni yn cael ei chynnal ar Faes Sioe Môn ym Mona, ger Gwalchmai, ddydd Mawrth a dydd Mercher, 11 a 12 Awst.

Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 1872, ac mae’r digwyddiad blynyddol yn dathlu amaethyddiaeth a bywyd cefn gwlad drwy gystadlaethau da byw, arddangosfeydd, bwyd a chrefftau. Mae wedi cael ei chynnal ar y safle presennol ers 1975.

Mae Sioe Môn yn un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf gogledd Cymru, gan ddenu dros 40,000 o ymwelwyr i’r maes 160 erw, lle mae mwy na 350 o stondinau masnach.

Mae Llew Jones wedi bod yn gaplan i’r sioe ers rhai blynyddoedd ac yn dweud ei fod yn mwynhau’r cyfle i dreulio amser yng nghwmni pobl o’r byd amaeth.

“Dw i’n edrych ymlaen wastad at unrhyw rôl lle mae caplaniaeth yn y cwestiwn, er mwyn i mi gael bod efo fy mhobl fy hun, os leciwch chi, fel rhywun sydd o gefndir amaethyddol ac sydd yn dal i ffermio rhyw ychydig,” meddai.

“Dw i’n teimlo mod i wedi dod adref rhywsut pan fydda i’n cael cyfle i fynychu’r sioe.”

Image
Llew Jones a Buwch Du Cymreig

Mae’r fferm deuluol wedi bod yn fferm laeth ers blynyddoedd ac wedi magu gwartheg Duon Cymreig ers degawdau.

Yn ôl Llew Jones, mae ffermio wedi mynd law yn llaw â’i waith fel offeiriad cefn gwlad ers iddo ddechrau gweinidogaethu.

“Dw i’n meddwl bod y ffaith mod i’n parhau i ffermio yn ein gwneud ni dipyn bach yn nes, efallai, at y bobl dw i’n trio, beth bynnag, eu bugeilio.

“Mae’n debyg ei bod hi’n haws uniaethu efo pobl eraill pan ydych chi’n gwybod, ac efallai’n byw, yr un problemau eich hun.”

Dywedodd mai rhan bwysig o waith caplan unrhyw sioe yw bod yn weladwy ac ar gael i unrhyw un sydd eisiau sgwrs.

“Dyna pam dw i’n meddwl bod o gymaint yn haws ac yn well peidio â bod yn styc mewn tent neu unrhyw beth arall, ond bod rhywun yn gallu mynd o gwmpas y gwahanol gylchoedd, cael ei weld, a rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb neu sydd isio sgwrs am unrhyw beth o gwbl ddod ata i’n gwbl anffurfiol, heb ddim pwysau o gwbl.”

Image
Llew Jones Caplan

Ychwanegodd fod y gwartheg Duon Cymreig “fel ail deulu” iddo.

“Maen nhw wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd i fel amaethwr, ond hefyd fel offeiriad cefn gwlad.”

Bydd uchafbwyntiau Sioe Môn 2026 i’w gweld ar S4C am 21:00 Nos Fawrth a Mercher

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.