O leiaf 132 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn nerthol yn Colombia
Mae o leiaf 132 o bobl wedi marw wedi i ddaeargryn nerthol daro Colombia ddydd Llun.
Fe wnaeth y daeargryn daro talaith Chocó yng ngorllewin y wlad, gan fesur 7.4 ar y raddfa Richter.
Erbyn hyn mae Llywodraeth Colombia wedi cyhoeddi trychineb cenedlaethol ac wedi anfon milwyr i'r ardal.
Mae’r awdurdodau yno'n ofni bod y nifer sydd wedi marw o ganlyniad i’r daeargryn yn debygol o gynyddu, gyda nifer o bobl yn sownd yn mewn adeiladau sydd wedi’u dinistrio.
Mae dros 480 o bobl wedi’u hanafau hyd yn hyn.
Dyma'r daeargryn mwyaf nerthol i daro'r wlad mewn dros ddegawd.
Mae’r ddinas Pereira, oedd tua 34 milltir o ganolbwynt y daeargryn, wedi ei tharo’n galed, yn ogystal â dinasoedd a threfi eraill yn ardal Valle del Cauca.
Mae tua 65 o adeiladau wedi disgyn yn y ddinas, gyda’r gwasanaethau brys yn credu bod pobl yn sownd mewn tua 15 o adeiladau.
Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos un adeilad yn disgyn ym mhrif sgwâr y ddinas, gan daflu llwch a rwbel ar draws yr ardal.
Mae cyrffyw wedi’i roi mewn rhai rhannu o’r ddinas, a fydd yn parhau mewn grym tan 05.00 amser lleol fore Mawrth.

