Tân sylweddol ger Cronfa Ddŵr Llangynidr bellach dan reolaeth
Mae'r tân sylweddol ger Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy bellach o dan reolaeth yn dilyn cynnydd sylweddol yn yr ymdrechion gan ddiffoddwyr tân dros y dyddiau diwethaf.
O ganlyniad, penderfynwyd newid statws y digwyddiad fel nad yw bellach yn cael ei ystyried yn Ddigwyddiad Mawr.
Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau ar y safle, gyda chymorth adnoddau arbenigol, wrth i'r gwaith barhau i ddiffodd mannau poeth sy'n weddill, atal y tân rhag ail-gynnau a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Nos Lun, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau yn ceisio diffodd tanau gwyllt newydd yng nghoedwig Cwmafon yn Nhorfaen, yn Wattsville ger Casnewydd ac yn Abernant, ger Aberdâr.
Roedd criwiau eisoes yn ymateb i'r tân sylweddol yn Llangynidr, ger Glyn Ebwy, a thân ar Fynydd Llanwynno, ger Glynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl y gwasanaeth, cafodd y tân ar Fynydd Llanwynno ei ailgynnau’n fwriadol.
Mae mwg o’r tanau wedi effeithio ar ardal sylweddol o dde-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhybuddio trigolion yn ardaloedd Casnewydd, Pont-y-pŵl, Blaenafon, Brynmawr a Chwmbrân i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau oherwydd y mwg.
Daw hynny wedi i Wasanaeth Tân ac Achub Avon yn Lloegr roi rhybudd tebyg i bobl yn yr ardal honno ddydd Llun.
Cafodd hofrennydd arbenigol ei ddefnyddio ddydd Llun fel rhan o’r ymateb i’r tân yn Llangynidr.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn galw ar drigolion yn ardal Glynrhedynog, ger Mynydd Llanwynno, i adrodd unrhyw ymddygiad amheus yn ymwneud â chynnau tanau i Heddlu De Cymru.
Llun: Tanau gwyllt yng Nglynrhedynog (Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru)