Mae Marathon Eryri, un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf adnabyddus gogledd Cymru, wedi cael ei ganslo oherwydd y tywydd garw.
Daeth cyhoeddiad yn gynnar nos Wener y byddai'r ras, oedd fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn, ddim yn digwydd ar ôl i swyddogion ddod i'r casgliad na fyddai'r "cwrs yn ddiogel."
Mae Storm Austen, sy'n destun rhybuddion tywydd ddydd Gwener, wedi achosi difrod i adeiladau, toriadau i gyflenwadau trydan a phroblemau trafnidiaeth yng Nghymru a gweddill Prydain. Mae disgwyl i'r tywydd gwael barhau ddydd Sadwrn yn ogystal.
Wrth gyhoeddi bod yn rhaid canslo'r ras, dywedodd swyddogion ei bod hi "wedi bod yn wythnos hir ac anodd i ni i gyd yma ym Marathon Eryri.
"Yn dilyn asesiad o’r cwrs heddiw, daeth ein Tîm Rheoli’r Cwrs i’r casgliad nad oedd y cwrs yn ddiogel, oherwydd hyrddiau o wynt cryf, coed ar hyd y lonydd a llifogydd ar hyd y llwybrau. Rydym wedi bod yn cael cyngor o bob ffynhonnell bosibl ac wedi ymgynghori ag arbenigwyr diogelwch," meddai'r datganiad ar Facebook.
"Er bod yr amodau wedi gwella ychydig heno, yn anffodus mae rhagolygon y tywydd ar gyfer yfory wedi gwaethygu’n sylweddol, ac felly rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd a gofidus i ganslo Marathon Eryri eleni."
Ychwanegodd y trefnwyr bod yn "rhaid i ni roi diogelwch pawb dan sylw yn gyntaf — nid ein rhedwyr yn unig, ond hefyd ein marsialiaid anhygoel."
"Ein bwriad yw trosglwyddo lle pob rhedwr i ras y flwyddyn nesaf, a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda rhagor o fanylion cyn gynted ag y gallwn," meddai'r trefnwyr.
"Diolch i bawb am y gefnogaeth a’r ddealltwriaeth a ddangoswyd, yn enwedig dros y 24 awr ddiwethaf. Mae gan y ras hon dros 40 mlynedd o hanes, ac mae ganddi un o’r cymunedau mwyaf ffyddlon a gwerthfawr ym myd rhedeg. Boed i hynny barhau am flynyddoedd lawer i ddod."