Pen-y-bont: Pennu dyddiad achos llys dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed
Mae dyddiad achos llys wedi’i bennu ar gyfer dyn sydd wedi’i gyhuddo o ladd gweithiwr mewn cymdeithas dai ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ymddangosodd Clifford Foster, 61, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi’i gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield, 47.
Bu farw Ms Barnfield yn yr ysbyty yr wythnos ddiwethaf ar ôl i’w char daro wal ar Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y gred yw fod ganddi anafiadau trywanu, cyn y gwrthdrawiad hwnnw.
Daeth y penderfyniad i gyhuddo Mr Foster ar ôl “ymgyrch blismona sylweddol” o amgylch Ger-y-Nant, sy’n cael ei reoli gan gymdeithas dai 'Cymoedd i’r Arfordir' lle roedd Ms Barnfield yn gweithio.
Yn ystod y gwrandawiad byr ddydd Llun, siaradodd Clifford Foster i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad yn Ger-y-Nant yn unig.
Ni chafodd gais i gyflwyno ple.
Pennodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddyddiad o 23 Tachwedd ar gyfer gwrandawiad ple a pharatoi ar gyfer yr achos, a dyddiad dros dro o 12 Ebrill y flwyddyn nesaf ar gyfer yr achos llys.
Cafodd Mr Foster ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Ms Barnfield wedi’i disgrifio fel y fam “fwyaf cariadus” a’r “person dewraf yn y byd”.
Wrth roi teyrnged iddi mewn datganiad drwy’r heddlu yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedon nhw: “Roedd hi’n golygu popeth i ni a bydd ei theulu a’i ffrindiau ffyddlon yn ei charu am byth ac yn gweld ei heisiau’n fawr. Hi oedd ein craig.”