Pedwar wedi marw ar ôl tân mewn tŷ ar Lannau Mersi

Tân Bootle

Mae pedwar o bobl wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Bootle ar Lannau Mersi. 

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Glannau Mersi, cafodd criwiau eu galw i ystâd Stone Square tua 03:45 fore Mawrth. 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Nick Searle fod person arall wedi ei gludo i'r ysbyty, a bod y tân wedi ymledu'n gyflym iawn.    

Daeth diffoddwyr o hyd i bedwar person yn farw yn yr ystafell wely i fyny'r grisiau yn y cartref, yn ôl y gwasanaeth tân. 

Roedd pumed person y tu allan i'r tŷ pan gyrhaeddodd y criwiau tân, cyn iddo gael ei gludo i'r ysbyty er mwyn cael triniaeth ar gyfer llosgiadau. 

Dywedodd rheolwr ardal Gwasanaeth Tân Glannau Mersi: “Mae hwn yn ddigwyddiad torcalonnus, ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r pedwar sydd wedi marw a'r pumed person sydd wedi ei anafu. 

“Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn darganfod beth achosodd y tân.”

Mae'r gwasanaeth tân a Heddlu Glannau Mersi yn cynnal ymchwiliad ar y cyd. 

Dywedodd un cymydog: “Daethom i gyd allan a gallem weld mwg yn dod drosodd o gyfeiriad y tai.  

“Cefais fy neffro gan y seirens, ac roedd sawl injan dân ar y stryd.”

Dywedodd dynes arall: “Clywais weiddi yn yr oriau mân, ond roeddwn yn credu bod rhywun yn cael ffrae, yn fe es i lawr grisiau a gweld sawl injan dân.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.