Owain Wyn Evans: Agweddau tuag at bobl LHDTC+ yn 'troi yn ôl'
Owain Wyn Evans: Agweddau tuag at bobl LHDTC+ yn 'troi yn ôl'
Mae’r cyflwynydd Owain Wyn Evans yn dweud ei fod yn pryderu bod agweddau tuag at gymunedau LHDTC+ wedi dechrau “troi yn ôl”.
Yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C, dywedodd Owain ei fod yn teimlo bod rhaid iddo wirio’r lleoliad o’i gwmpas cyn dangos cariad tuag at ei ŵr, Arran.
Mae’r pâr sy’n byw ym Mhenarth wedi bod yn briod ers saith blynedd ac wedi bod gyda’i gilydd ers 17 o flynyddoedd bellach.
Ond maent yn dal i deimlo’n annifyr ar adegau wrth wneud eu perthynas yn amlwg mewn llefydd cyhoeddus, meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Fi’n credu bod lot o bobl yn credu bod dim un her yn bodoli nawr i bobl hoyw.
“Ond yn anffodus fi yn dal i edrych rownd a checo cyn bo’ fi’n dal llaw Arran.
“Neu os y’ fi’n droppo fe off yn y car, cyn cusanu fe i ‘weud hwyl fawr, mae’r ddau o ni’n edrych rownd.
“A mae hwnna’n rhywbeth fi’n credu sydd yn bach o sioc i bobl sydd ddim yn hoyw.
“Achos yn amlwg mae rhain yn pethau bydde’ pobl sydd ddim yn hoyw jyst yn ‘neud heb feddwl.”
'Mynd yn ôl'
Daw sylwadau Owain wedi iddo dreulio cyfnod yn yr Eidal yn ddiweddar fel rhan o'i gyfres newydd gyda Coleen Ramsay, Ciao! Colleen ag Owain.
Wedi iddo ymweld â Verona – dinas y cariadon Romeo a Juliet – roedd yn awyddus i nodi bod pobl LHDTC+ yn parhau i wynebu heriau.
Mae’n dweud ei fod yn cydnabod bod “pethau wedi symud ymlaen lot” ers ei fagwraeth yn yr 80au a’r 90au, ond bod ‘na “arafu” o ran datblygiad pellach.
Dywedodd ei fod yn credu mai newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol sydd wedi cyfrannu at newid yn yr agweddau tuag at gymunedau LHDTC+.
“Mae’n eitha’ scary i ‘weud fi’n credu bod pethau’n dechrau troi ‘sha nôl. Fi’n credu bod sawl reswm,” meddai.
“Fi yn credu bod y kind of tirwedd wleidyddol ar draws y byd yn newid, yn sawl ardal, yn sawl gwlad.
“Fi’n credu bod e fan hyn, a fi’n credu bod agweddau pobl tuag at bobl LGBT yn newid.
“P’run ai bod ti’n hoyw, bod ti’n trans, beth bynnag, mae pobl jyst moyn byw eu bywydau nhw a bod yn hapus.”
'Cymaint mwy i'w wneud'
Mae’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi dweud y dylai pawb fod yn rhydd i fyw eu bywydau heb ofn na gwahaniaethu.
Dywedodd Llywodraeth Llafur Cymru eu bod nhw’n ymwybodol bod heriau o’r fath yn parhau i fodoli, gyda chymunedau LHDTC+ yn wynebu gwahaniaethu annerbyniol “ledled y byd ac yma yn ein cymunedau ein hunain".
Maen nhw’n dweud bod yna “gymaint mwy i’w wneud” gan ychwanegu bod uchelgais ganddynt i wneud Cymru’n y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+ drwy eu cynllun gweithredu.
Mae Plaid Cymru yn dweud fod yna ddyletswydd ar bleidiau a gwleidyddion i beidio a “chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl”.
Mae hynny’n cynnwys peidio â defnyddio “rhethreg niweidiol” am y gymuned LHDTC+ a allai greu rhaniadau pellach yng nghymunedau Cymru, meddai.
Dywedodd Reform UK yng Nghymru y dylai pawb fod yn gallu “byw eu bywydau heb fod yn ofni trais neu wahaniaethu”.
Roedd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yng Nghymru hefyd wedi dweud bod gan bawb yr hawl i fyw heb ofn, gan ychwanegu y bydden nhw bob tro yn “brwydro dros hawliau cymunedau ledled Cymru”.
Fel menyw hoyw, dywedodd Tessa Marshall, ymgeisydd y Blaid Werdd yng Nghaerdydd Penarth, bod ganddi brofiad uniongyrchol o ran sut mae cymunedau LHDTC+ yn cael eu trin.
Ychwanegodd y byddai bob amser yn ymgyrchu dros ei “brodyr a chwiorydd” LHDTC+ a’u hawliau i fyw “heb wahaniaethu, bygythiad neu aflonyddwch".
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ymateb.
Bydd modd gwylio pennod ddiweddaraf Ciao! Colleen ag Owain am 20.25 nos Lun ar S4C, neu mae modd ei ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

