'Osgowch yr ardal': Ffordd yr A470 ar gau yn Sir Conwy wedi i lori droi drosodd
Mae ffordd yr A470 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn Sir Conwy yn dilyn gwrthdrawiad.
Cafodd datganiad ei ryddhau gan Traffig Cymru toc wedi 01.00 yn rhybuddio y byddai'r ffordd ar gau "am beth amser" ar ôl i lori droi drosodd yn ardal Maenan.
Daeth diweddariad pellach yn rhybuddio bod dargyfeiriadau ar waith wedi'r gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod dros chwe milltir o'r ffordd rhwng Llanrwst a Thal-y-cafn ar gau.
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/2047164613175771622?s=20
Maen nhw’n cynghori gyrwyr y gallai’r ffordd barhau ar gau tan hanner dydd ddydd Iau.
Dywedodd llefarydd: “Osgowch yr ardal os gwelwch yn dda. Diolch am eich cydweithrediad.”