Oedi dechrau achos llys dynion sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r troseddwr rhyw Ian Watkins

Ian Watkins

Mae achos llys dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio cyn-ganwr Lostprophets, Ian Watkins, wedi ei oedi am ddiwrnod.

Roedd disgwyl i Rashid Gedel, 25, a Samuel Dodsworth, 43, ymddangos o flaen llys ddydd Mawrth wedi’u cyhuddo o lofruddio Watkins yng Ngharchar Wakefield y llynedd.

Mae bellach wedi cael ei gadarnhau bod yr achos wedi cael ei ohirio a mae disgwyl iddo ddechrau ddydd Mercher.

Bu farw Ian Watkins, a oedd yn treulio dedfryd o 29 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw yn erbyn plant, yn y carchar diogelwch uchafar ar 11 Hydref.

Cafodd y canwr 48 oed ei garcharu ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl cyfaddef i gyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Cafodd ei arestio ar ôl i warant cyffuriau gael ei gweithredu yn ei gartref ym Mhontypridd ar 21 Medi 2012, pan gafodd nifer fawr o gyfrifiaduron, ffonau symudol a dyfeisiau storio eu meddiannu gan yr heddlu.

Yn 2019, cafodd ei garcharu am 10 mis ychwanegol ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o fod â ffôn symudol yn y carchar.

Roedd Watkins wedi cael ei gludo i’r ysbyty o’r blaen ar ôl dioddef ymosodiad yn 2023.

Mae disgwyl i’r achos ddechrau yn Llys y Goron Leeds ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.