Noson fawr i Osian Roberts wrth i Como 1907 herio Manchester United

Osian Roberts Como

Fe fydd hi'n noson fawr i Osian Roberts nos Fercher wrth i glwb pêl-droed Como 1907 wynebu Manchester United yng Nghynghrair y Pencampwyr. 

Osian Roberts yw Pennaeth Datblygu y clwb, ac fe fyddan nhw'n wynebu tîm Michael Carrick gartref yn Stadio Giuseppe Sinigaglia nos Fercher. 

Llwyddodd tîm Cesc Fabregas yn yr Eidal i gymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes ar ddiwrnod olaf Serie A y tymor diwethaf.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Como 1907 yn chwarae yn y bedwaredd haen, ond erbyn hyn maen nhw'n chwarae yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop.  

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw wynebu tîm o Uwch Gynghrair Lloegr yn y gystadleuaeth eleni. 

Mae amheuon wedi bod am y gêm gyda glaw trwm yn taro rhanbarth Lombardy yn yr Eidal, ond mae Como yn dweud eu bod yn hyderus na fydd y gêm yn cael ei gohirio.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr Manchester United Michael Carrick: "Mae gen i barch mawr ar gyfer beth mae Cesc wedi ei wneud, pa mor gyflym y maen nhw wedi codi a pha mor dda wnaethon nhw y tymor diwethaf. 
 
"Fel hyfforddwr, gyda'r ffordd y mae'r tîm yn chwarae, mae'n eithaf amlwg fod ganddo syniadau da. Mae wedi creu tîm da iawn, iawn."
 
Fel arall yng Nghynghrair y Pencampwyr, fe wnaeth Lerpwl guro Villarreal 4-3 nos Fawrth, gyda Manchester City yn ennill 5-1 yn erbyn AEK Athens. 
 
Bydd Aston Villa yn wynebu Viking nos Fercher, ac Arsenal yn herio Bayern Munich. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.