Llywodraeth y DU yn caniatáu o'r newydd i dyllu am nwy ym maes Jackdaw ym Môr y Gogledd
Mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu o'r newydd i dyllu am nwy ym maes Jackdaw ym Môr y Gogledd.
Mae'r penderfyniad yn dod â misoedd o ddyfalu i ben am ddyfodol y prosiect, gyda'r perchnogion, Adura, yn dweud y gallai gyfrannu tua 6% o gynhyrchiad nwy y DU ym Môr y Gogledd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Miatta Fahnbulleh y bydd y cam hwn yn "cefnogi diogelwch ynni’r wlad gyda nwy sy'n cael ei gynhyrchu gartref y gaeaf hwn".
Ychwanegodd y Prif Weinidog Andy Burnham y bydd y penderfyniad yn "diogelu cannoedd o swyddi ac yn helpu i gadw miliynau o gartrefi’n gynnes", ond pwysleisiodd na fyddai’n rhwystro targedau’r Llywodraeth o ran ynni adnewyddadwy.
"Ar adeg pan mae pobl yn cael trafferthion mawr, mae’n briodol i ni ystyried yn gyfrifol sut y gallwn wneud y mwyaf o’r cronfeydd ynni sydd eisoes gennym ym Mhrydain a allai helpu," meddai.
“Rydym wedi ymrwymo i symud tuag at ynni adnewyddadwy a chyrraedd sero net erbyn 2050.”
Mae maes nwy Jackdaw ym Môr y Gogledd yn un o ddau y mae'n rhaid i'r Blaid Lafur benderfynu ar eu dyfodol ar ôl i lys ddiddymu'r caniatâd tyllu a gafodd ei roi gan y Ceidwadwyr.
Cafodd Jackdaw a maes Rosebank eu cymeradwyo ym mis Mehefin 2022, ond fe gafodd hyn ei wrthdroi gan lysoedd yn Yr Alban wedi her gan ymgyrchwyr amgylcheddol.
Daeth hyn wedi dyfarniad Goruchaf Lys y DU fod yn rhaid i ddatblygwyr ystyried yr effaith ar yr hinsawdd sy'n cael ei achosi gan losgi tanwyddau ffosil yn eu ceisiadau cynllunio.
Cafodd ymgynghoriadau cyhoeddus newydd eu cynnal ar y cynigion eleni gan ddod i ben ym mis Awst, ac fe gymeradwyodd Llywodraeth y DU brosiect Jackdaw fore Mercher.