Nigel Farage i gyhoeddi datganiad am ei ddyfodol mewn bywyd cyhoeddus

farage.jpg

Mae arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage wedi dweud y bydd yn gwneud datganiad ar "ei ddyfodol mewn bywyd cyhoeddus" brynhawn Mawrth wrth i'r pwysau gynyddu arno yn sgil cefnogaeth ariannol a dderbyniodd gan berson sydd wedi ei gael yn euog o dwyll, a rhodd o £5 miliwn gan fuddsoddwr. 

Mae disgwyl y datganiad am 14:00.

Derbyniodd Nigel Farage gefnogaeth ariannol gan y troseddwr George Cottrell yn y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol i San Steffan, gan dorri rheolau ASau o bosib drwy fethu â datgan y gefnogaeth, yn ôl adroddiadau.

Darparodd ei gyfaill hir-dymor George Cottrell gyllid ar gyfer ymgyrch arweinydd Reform UK, gan gynnwys ar gyfer staffio a diogelwch, yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Plediodd Cottrell, 32 oed, yn euog i gyhuddiad o dwyll electronig  yn America yn 2017, ac fe gafodd ei garcharu am wyth mis.

Cafodd ei arestio wrth iddo fe a Mr Farage ddychwelyd i Brydain ar ôl taith i America. 

Mae Reform UK yn gwadu fod eu harweinydd wedi torri'r rheolau ymddygiad. 

Mae Mr Farage wedi ymateb yn ffyrnig i gwestiynau gan newyddiadurwyr am ei roddion, gan wadu iddo wneud unrhyw beth o'i le. 

Mae cwestiynau hefyd am rodd o £5 miliwn a dderbyniodd Nigel Farage yn 2024, gan Christopher Harborne, buddsoddwr mewn arian Crypto sydd yn byw yng Ngwlad Thai.

Mae AS Clacton wedi rhoi sawl eglurhad am y rhodd, gan gynnwys ei fod ar gyfer talu am ei ddiogelwch personol.

Mae Comisiynydd Safonau'r Senedd yn San Steffan, Daniel Greenberg eisoes yn cynnal ymchwiliad er mwyn ystyried a ddylai Mr Farage fod wedi datgelu'r rhodd gan Mr Harborne.

Pe bai'n dod i'r casgliad iddo dorri'r rheolau, gallai Nigel Farage wynebu sancsiynau. A gallai hynny arwain at is-etholiad yn ei etholaeth yn Clacton, de Lloegr.  

Comisiwn Etholiadol 

Mae'r Blaid Lafur wedi gofyn i'r Comisiwn Etholiadol gynnal ymchwiliad er mwyn darganfod a ddylai'r gefnogaeth ariannol fod wedi ei datgelu. 

Mae Llafur hefyd yn awyddus i gael gwybod a oedd Mr Cottrell sydd wedi ei leoli ym Montenegro, yn rhoddwr derbyniol, gan honni nad yw'n glir a oedd ar gofrestr etholwyr y Deyrnas Unedig ar y pryd. 

Ddydd Llun, galwodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ar y Comisiynydd Safonau Seneddol i gynnal ymchwiliad ffurfiol i arweinydd Reform UK, Nigel Farage ar y sail y gallai fod wedi torri Cod Ymddygiad ASau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.