Newyddiadurwyr y BBC yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol
Mae aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yn y BBC wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol mewn anghydfod dros ddiswyddiadau gorfodol a llwyth gwaith.
Fe wnaeth 79.38% o aelodau'r undeb a bleidleisiodd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a thramor gefnogi gweithredu ar ffurf streic, gyda 91.32% yn cefnogi gweithredu diwydiannol heb streicio.
Fe wnaeth 75.03% o'r aelodau oedd yn gymwys fwrw pleidlais.
Yng Ngogledd Iwerddon, lle cynhaliwyd pleidlais ar wahân, roedd 84.21% o blaid streicio a 90.35% o blaid gweithredu diwydiannol heb streicio.
Mae canlyniad y bleidlais yn rhoi "mandad cyfreithiol" i'r undeb weithredu'n ddiwydiannol dros y 12 mis nesaf.
Ond mae'r undeb wedi pwysleisio mai dewis olaf fyddai mynd ar streic ac nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto i weithredu.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r BBC am ymateb i ganlyniad y bleidlais.
Toriadau
Daw'r bleidlais yn sgil toriadau gwerth £500m ar draws y BBC, sydd wedi arwain at ddiswyddiadau gorfodol a chynnydd yn llwyth gwaith y staff sy'n weddill, yn ôl yr undeb.
Mae'r NUJ wedi bod yn galw ar reolwyr y BBC i atal y toriadau ac i ymuno â'r undeb i alw am gyllid hirdymor sicr wrth i Siarter Frenhinol y gorfforaeth gael ei hadnewyddu ar ddiwedd 2027.
Mae'r undeb hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd ar frys er mwyn lleihau'r pwysau ariannol ar y BBC.
Mae hynny'n cynnwys galwadau ar y llywodraeth i ailafael yn y cyfrifoldeb am ariannu BBC World Service yn llawn, yn ogystal â thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yn y diwydiannau darlledu, adloniant a'r celfyddydau gynnal digwyddiadau yn Senedd y DU er mwyn lobïo ASau a chodi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau sy'n wynebu'r BBC a'i weithwyr.
