Newidiadau i barcio yng Ngwynedd i godi £238,000 yn ychwanegol

Dinas Dinlle

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo newidiadau i’w ffioedd a threfniadau parcio, yn y gobaith o godi £238,000 yn ychwanegol.

Mae cabinet y cyngor wedi cytuno i ymestyn oriau gorfodi meysydd parcio arhosiad byr o 10:00-16:30 i 09:00-17:00 - cam a allai godi £78,000 yn ychwanegol.

Mae’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo addasiadau i strwythur ffioedd meysydd parcio arhosiad hir, gyda’r nod o godi £160,000 arall.

Mae’r tâl dwy awr o £1.40 mewn meysydd arhosiad hir wedi’i ddiddymu, a bydd y tâl pedair awr yn codi o £2.80 i £3.50.

Fe gafodd y newidiadau ganiatâd i fynd rhagddynt gan y Cabinet fis Ebrill y llynedd, ond roedd angen “ystyriaeth bellach” cyn gwneud penderfyniad terfynol, yn dilyn ymgynghoriad.

Yn y cyfarfod, gofynnodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones sut mae parcio yng Ngwynedd yn cymharu ag ardaloedd eraill.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, Gerwyn Jones, ei bod hi’n anodd gwneud “cymhariaeth uniongyrchol” oherwydd “strwythurau gwahanol”.

Fodd bynnag, dywedodd: “Un o’r pethau rydyn ni’n ei glywed pan fyddwn ni’n mynd allan ac yn sefyll wrth y peiriannau talu yma yw bod ymwelwyr yn dweud eu bod nhw’n synnu faint mor rhad yw e, o’i gymharu â’r ffioedd parcio lle maen nhw’n byw.

“Felly, rwy’n credu ein bod ni wedi taro cydbwysedd rhwng darparu parcio ar gyfer anghenion lleol, ond hefyd cynhyrchu incwm.”

Mae tocyn parcio tymhorol ar gael i’w ddefnyddio mewn unrhyw faes parcio arhosiad hir.

Mae tocyn chwe mis yn costio £72.50 a thocyn 12 mis yn costio £145, “sy’n dipyn o fargen,” ychwanegodd Gerwyn Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.