Mwyafrif o bobl ar ynys Iwerddon 'o blaid Iwerddon unedig o fewn yr UE'

Iwerddon unedig

Mae canlyniadau arolwg newydd yn awgrymu y byddai'r mwyafrif o bobl ar ynys Iwerddon yn pleidleisio o blaid Iwerddon unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Amarach Research, ac fe gafodd 1,200 o bobl eu holi rhwng 26 a 31 Mawrth eleni.

Byddai 73% o bobl yng Ngogledd Iwerddon yn pleidleisio o blaid y Deyrnas Unedig yn ailymuno â'r UE yn ôl y gwaith ymchwil.

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu y byddai 59% o bobl yn Iwerddon a 63% yng Ngogledd Iwerddon yn pleidleisio o blaid Iwerddon unedig yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm yn cael ei chynnal yfory.

Dywedodd 73% o'r rhai a holwyd yng Ngogledd Iwerddon y bydden nhw'n pleidleisio dros y dalaith yn ymuno â'r UE, gyda 23% yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn hynny.

Fe nododd yr arolwg hefyd bod 71% yn Iwerddon yn credu y dylai'r DU geisio mwy o annibyniaeth oddi wrth yr Unol Daleithiau, gyda'r ffigwr yn neidio i 79% yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yw'r prif bryderon?

Mae Iwerddon wedi bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ers 1973, tra bod Gogledd Iwerddon wedi gadael yn 2020 wedi i'r DU bleidleisio i adael yn 2016.

Yn ôl yr arolwg, mae 45% yn Iwerddon yn dweud eu bod yn fodlon gyda chyfeiriad y DU.

Pan ofynwyd beth oedd eu pryderon mwyaf ar lefel Ewropeaidd, dywedodd dinasyddion Iwerddon mai costau byw (58%), mudo (48%), tai (41%), ynni (36%) ac amddiffyn a diogelwch (36%) oedd y prif bryderon.

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd 46% yn fodlon gyda chyfeiriad yr UE, gyda 36% yn anfodlon.

Y pum brif bryder yng ngogledd Iwerddon oedd costau byw (45%), mudo (42%), ymateb yr UE i wrthdaro’r Dwyrain Canol (41%), amddiffyn a diogelwch (40%) ac ynni (37%).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.