Plaid Cymru yn ennill tir i fod y blaid fwyaf yn ôl yr arolwg diweddaraf
Mae arolwg diweddaraf ITV Cymru yn awgrymu mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf wedi Etholiad y Senedd ddydd Iau, gan ennill tir ers yr arolwg diwethaf.
Yn ôl yr ymchwil byddai plaid Rhun ap Iorwerth yn hawlio 33% o'r bleidlais, 4% yn fwy na Reform UK ar 29%.
Byddai hynny'n golygu 43 sedd i Blaid Cymru a 34 sedd i Reform.
Yn ôl yr arolwg sydd wedi ei lunio gan YouGov ar gyfer ITV Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, byddai Llafur yn y trydydd safle, gan sicrhau 12% o'r bleidlais, a fyddai'n cyfateb i 12 sedd.
Ond byddai'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn colli ei sedd, gyda Phlaid Cymru yn cipio 4 sedd yn etholaeth Ceredigion Penfro, a Reform yn hawlio'r ddwy sedd arall.
Mae mymryn o gynnydd yng nghanran y Ceidwadwyr Cymreig, sef 9%.
Byddai hynny yn eu rhoi yn y pedwerydd safle gyda phedair sedd.
Mae'r Blaid Werdd wedi disgyn i'r pumed safle ar 8%.
Byddai hynny yn arwain at ddwy sedd yng Nghaerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth i'r blaid.
Ond ar sail yr ystadegau ar gyfer Llafur, y Ceidwadwyr a'r Gwyrddion, gallai ychydig o ganrannau'r naill ffordd, gael effaith arwyddocaol ar nifer y seddi a gaiff eu hennill mewn etholaethau.
Gallai'r gostyngiad yn nifer y seddi i'r Blaid Werdd newid yn llwyr, os y llwydda'r blaid i ennill ychydig o filoedd yn fwy o bleidleisiau.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi aros ar 6%. Byddai hynny'n golygu fod eu harweinydd, Jane Dodds yn cael eu hethol ym Mrycheiniog Tawe Nedd.
Roedd cwestiynau eraill ar gyfer y rhai a gafodd eu holi yn yr arolwg.
Roedd 43% o'r farn y bydd Plaid Cymru yn arwain llywodraeth nesaf Cymru.
15% oedd yn credu mai Reform UK fyddai'n arwain y llywodraeth newydd.
Yn ôl casgliadau'r arolwg, byddai'n well gan y rhai a gafodd eu holi weld un blaid yn llywodraethu.
Pan ofynnwyd beth yw'r ffactor mwyaf sy'n dylanwadu ar eich pleidlais, yr ymatebion mwyaf poblogaidd oedd "atal Reform' a "mewnfudo."
Cafodd 2,391 o bobl eu holi yn yr arolwg rhwng 25 Ebrill a 4 Mai.
Dyma gasgliadau'r arolwg fesul etholaeth.
Afan Ogwr Rhondda - Reform 3, Plaid Cymru 2, Llafur 1
Bangor Conwy Môn - Plaid Cymru 4, Reform 2,
Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - Plaid Cymru 3, Reform 2, Llafur 1
Brycheiniog Tawe Nedd - Plaid Cymru 2, Reform 2, Llafur 1, Dem Rhydd 1
Caerdydd Ffynnon Taf - Plaid Cymru 3, Reform 1, Llafur 1, Gwyrddion 1
Caerdydd Penarth - Plaid Cymru 3, Reform 1, Llafur 1, Gwyrddion 1
Casnewydd Islwyn - Reform 3, Plaid Cymru 2, Llafur 1
Ceredigion Penfro - Plaid Cymru 4, Reform 2
Clwyd - Plaid Cymru 2, Reform 2, Llafur 1, Ceidwadwyr 1
Fflint Wrecsam - Plaid Cymru 2, Reform 2, Llafur 1, Ceidwadwyr 1
Gwynedd Maldwyn - Plaid Cymru 4, Reform 2
Gŵyr Abertawe - Plaid Cymru 3, Reform 2, Llafur 1
Pen-y-bont Bro Morgannwg - Plaid Cymru 2, Reform 2, Llafur 1, Ceidwadwyr 1
Pontypridd Cynon Merthyr - Reform 3, Plaid Cymru 2, Llafur 1
Sir Fynwy Torfaen - Plaid Cymru 2, Reform 2, Llafur 1, Ceidwadwyr 1
Sir Gaerfyrddin - Plaid Cymru 3, Reform 3
