Bachgen 16 oed 'wedi marw drwy anffawd' tra ar wyliau yn Llandudno
Mae cwest i farwolaeth bachgen tra'r oedd ar wyliau teuluol yng ngogledd Cymru wedi dod i'r casgliad ei fod wedi marw drwy anffawd.
Cafodd ymdrech enfawr ei lansio i ddod o hyd i Athrun Domenic Lombardo, 16 oed, pan aeth ar goll o draeth yn Llandudno ar 10 Mai 2025.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn y môr bedwar diwrnod yn ddiweddarach ac fe gofnododd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Jonathan Medcalf, achos ei farwolaeth fel boddi.
Clywodd cwest yn Rhuthun ddydd Mawrth fod Athrun a'i deulu, o Pinkers Mead, Emersons Green, Bryste, wedi cyrraedd yr ardal y diwrnod cynt gan aros mewn AirBnB wrth ymweld â rhieni ei fam.
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y gwrandawiad gan John Gittins, Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ddwyrain a Chanol Gogledd Cymru, dywedodd mam y bachgen, Catherine Lombardo, ei fod yn dioddef o awtistiaeth a dyspracsia, a bod ganddo anghenion cymhleth.
Roedd hefyd wedi cael presgripsiwn am amryw feddyginiaethau ar eu cyfer.
Dywedodd fod gan Athrun broblemau iechyd meddwl ac yn ystod "argyfyngau" roedd wedi siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio ar nifer o achlysuron.
Fe ddywedodd seiciatrydd plant nad oedd Athrun wedi dangos unrhyw dueddiad i hunanladdiad yn ei apwyntiad diwethaf ac nad oedd yn cael ei ystyried yn risg.
Clywodd y cwest fod Athrun, ei dad a'i frawd wedi mynd yn fwriadol i ran dawel o'r traeth, lle tynnodd ei grys-T a mynd i mewn i'r môr.
Pan sylweddolon nhw ei fod ar goll, fe wnaethon nhw chwilio ar hyd yr ardal gan fethu dod o hyd iddo.
Wrth gofnodi marwolaeth drwy anffawd, dywedodd y Crwner: "Bu cynnwrf yn y gorffennol pan awgrymodd ei fod am niweidio ei hun ond y gwir amdani yw nad oes gennyf ddim i gefnogi gweithred o niweidio ei hun."
