Carcharu dyn o Wynedd am saith mlynedd am dreisio dynes yn Llanrwst

Dedfryd Griffiths
Mae dyn o Wynedd wedi ei garcharu am saith mlynedd am dreisio dynes yn Llanrwst yn 2021.
 
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafodd Sion Douglas Griffiths, 38 oed, ei garcharu am dreisio'r ddynes tra'r oedd hi'n cysgu.
 
Cafodd ei deffro gan yr ymosodiad gan ofyn iddo stopio ond fe wnaeth Griffiths barhau er ei bod wedi ceisio ei wthio i ffwrdd.
 
Fe gafwyd Griffiths yn euog o dreisio mewn achos llys yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Mawrth.
 
Mae hefyd yn destun gorchymyn gydol oes i beidio a chysylltu a'r ddioddefwraig, ac fe fydd ei enw yn cael ei roi ar restr troseddwyr rhyw.
 
Mewn datganiad personol a ddarllenwyd i'r Llys, disgrifiodd y ddioddefwraig sut mae'r digwyddiad wedi cael effaith sylweddol arni, gan gynnwys dioddef pyliau o banig, a theimlo'n ofnus ac yn anghyfforddus o gwmpas dynion.
 
Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Rhingyll Owen Taylor o Uned Diogelu Pobl Agored i Niwed gyda Heddlu'r Gogledd: “Rwy'n croesawu dedfryd heddiw sy'n anfon neges glir nad yw trais rhywiol ar unrhyw ffurf yn dderbyniol.
 
“Hoffwn ganmol dewrder a phenderfyniad y dioddefwr sydd wedi dioddef proses hirfaith i gyrraedd y canlyniad heddiw. Mae ei chryfder yn glodwiw.
 
“Mae trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i'r heddlu a byddwn yn gweithio'n ddi-baid i ddod â throseddwyr o flaen y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.